Y cwmni teledu a gymerodd drosodd o HTV West yng ngorllewin Lloegr oedd ITV West. Roedd yn rhan o'r cwmnïau ITV Wales and West plc ac ITV Plc.

ITV West
Math
busnes
Rhiant-gwmni
ITV West Country

Ym mis Chwefror 2009, cyfunwyd gweithrediad ITV West ag ITV Westcountry yn ne orllewin Lloegr i greu gwasanaeth nad yw'n fasnachfraint a elwir yn ITV West Country. Yn mis Ionawr 2014, cafodd y fasnachfraint ddeuol ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr ei ddisodli'n ffurfiol gan ddau drwydded ar wahân.

Mae ITV West Country yn cynhyrchu gwasanaethau newyddion rhanbarthol (ITV News West Country) ar gyfer Gorllewin a De Orllewin Lloegr o stiwdios ym Mryste. Mae hefyd yn darlledu rhaglen wleidyddol fisol, The West Country Debate.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Categori:Masnachfreintiau ITV