ITV
Rhwydwaith deledu masnachol yn y Deyrnas Unedig yw ITV. Fe'i lansiwyd fel Independent Television yn 1955 i gystadlu gyda'r BBC, hwn yw'r rhwydwaith masnachol hynaf yn y DU. Ers Deddf Darlledu 1990, ei enw cyfreithiol yw Channel 3, i'w wahaniaethu o'r sianeli analog arall oedd yn bodoli ar y pryd, sef BBC 1, BBC 2 a Channel 4.
Math | rhwydwaith teledu |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau |
Sefydlwyd | 1955 |
Pencadlys | The London Studios |
Cynnyrch | teledu |
Gwefan | https://www.itvplc.com/, https://itvstudios.com/ |
Mae ITV yn rwydwaith o sianeli teledu sy'n cynhyrchu rhaglenni teledu rhanbarthol a rhaglenni sy'n cael eu dangos ar draws y rhwydwaith. Ers rhai blynyddoedd mae'r cwmniau oedd yn berchen ar y masnachfreintiau rhanbarthol wedi cyfuno gan adael dau brif gwmni, ITV plc a STV Group (yn yr Alban).
Manylion Masnachfreintiau Sianel 3
golygu-
Logo ITV (2005-2013)
-
ITV1 ar gyfer Cymru, Lloegr a De yr Alban
-
STV ar gyfer Gogledd a Canolbarth yr Alban
-
UTV ar gyfer Gogledd yr Iwerddon
Mae'r tabl isod yn rhestru masnachfreintiau cyfoes.
Yr Ardal | Deilydd[1] | Dyddiad Cychwyn | Perchennog | Enw Cyhoeddus |
---|---|---|---|---|
Masnachfreintiau Rhanbarthol | ||||
Canolbarth yr Alban | STV Central Ltd (Scottish Television gynt) | 31 Awst 1957 | STV Group plc | STV |
Gogledd yr Alban | STV North Ltd (Grampian Television gynt) | 30 Medi 1961 | STV Group plc | STV |
Gogledd yr Iwerddon | UTV (Ulster Television) | 31 Hydref 1959 | UTV Media plc | UTV[2] |
Ynysoedd yr Sianel | Channel Television Ltd | 1 Medi 1962 | Yattendon Investment Trust Archifwyd 2007-07-04 yn y Peiriant Wayback | ITV1 Channel Television[3] |
Gororau'r Alban/Lloegr ac Ynys Manaw | ITV Border Ltd | 1 Medi 1961 | ITV plc | ITV1 Border[3] |
Gogledd-Ddwyrain Lloegr | ITV Tyne Tees Ltd | 15 Ionawr 1959 | ITV plc | ITV1 Tyne Tees[3] |
Swydd Efrog a Swydd Lincoln | Yorkshire Television Ltd | 29 Gorffennaf 1968 | ITV plc | ITV1 Yorkshire[3] |
Gogledd-Orllewin Lloegr | Granada Television Ltd | 3 Mai 1956[4] | ITV plc | ITV1 Granada[3] |
Cymru a Gorllewin Lloegr | ITV Wales and West Ltd (HTV gynt) | 20 Mai 1968 | ITV plc | ITV1 Wales/ ITV1 West[3] |
Canolbarth Lloegr | ITV Central Ltd | 1 Ionawr 1982 | ITV plc | ITV1 Central[3]/ ITV1 Thames Valley[3] |
Dwyrain Lloegr | Anglia Television Ltd | 27 Hydref 1959 | ITV plc | ITV1 Anglia[3] |
Llundain Diwrnodau Gwaith | Carlton Television Ltd | 1 Ionawr 1993 | ITV plc | ITV1 London (Weekdays)[3] |
Llundain Penwythnos | London Weekend Television Ltd | 2 Awst 1968 | ITV plc | ITV1 London (Weekends)[3] |
De a De-Ddwyrain Lloegr | ITV Meridian Ltd | 1 Ionawr 1993 | ITV plc | ITV1 Meridian[3]/ ITV1 Thames Valley[3] |
De-Orellewin Lloegr | Westcountry Television | 1 Ionawr 1993 | ITV plc | ITV1 Westcountry[3] |
Masnachfreintiau Cenedlaethol | ||||
Amser Brecwast Cenedlaethol | GMTV Ltd | 1 Ionawr 1993 | ITV plc (75%)/ The Walt Disney Company (25%) |
GMTV/ CITV |
Gwasanaeth Teledestun Cenedlaethol | Teletext Ltd. | 1 Ionawr 1993 | DMGT | Teletext |
Masnachfreintiau Gwreiddiol
golyguYr Ardal | Deilydd[1] | Dyddiad Cychwyn | Dyddiad Cau | Perchennog |
---|---|---|---|---|
Masnachfreintiau Rhanbarthol | ||||
Llundain Diwrnodau Gwaith | Associated-Rediffusion | 22 Medi 1955 | 29 Gorffennaf 1968 | BET, Broadcast Relay Services |
Llundain Penwythnos | Associated TeleVision (ATV London) | 24 Medi 1955 | 28 Gorffennaf 1968 | Associated Communications Corporation |
Canolabarth Lloegr Diwrnodau Gwaith | Associated TeleVision (ATV Midlands)[5] | 17 Chwefror 1956 | 31 Rhagfyr 1981 | Associated Communications Corporation |
Canolbarth Lloegr | Associated British Corporation (ABC Television) | 18 Chwefror 1956 | 28 Gorffennaf 1968 | ABPC |
Gogledd Lloegr Penwythnos | Associated British Corporation (ABC Television) | 5 Mai 1956 | 28 Gorffennaf 1968 | ABPC |
De Cymru a Gorwellin Lloegr | Television Wales and West (TWW)[6] | 14 Ionawr 1958 | 3 Mawrth 1968 | Annibynnol |
De a De Ddwyrain Lloegr | Southern Television | 30 Awst 1958 | 31 Rhagfyr 1981 | Associated Newspapers, Rank Organisation, D.C. Thomson & Co. Ltd |
De Orwellin Lloegr | Westward Television[7] | 29 Ebrill 1961 | 31 Rhagfyr 1981 | Annibynnol (1961-1981), TSW (1981) |
Gogledd a Gorwellin Cymru | Wales West and North Television (Teledu Cymru) | 14 Medi 1962 | 26 Ionawr 1964 | Annibynnol |
Llundain Diwrnodau Gwaith | Thames Television | 30 Gorffennaf 1968 | 31 Rhagfyr 1992 | BET, Thorn EMI (1968 - 1985), Annibynnol (1985 - 1993), Pearson (1993 - 2000), Fremantle Media (2000-) |
De Orwellin Lloegr | Television South West (TSW)[7] | 1 Ionawr 1982 | 31 Rhagfyr 1992 | Annibynnol |
De a De Ddwyrain Lloegr | Television South (TVS) | 1 Ionawr 1982 | 31 Rhagfyr 1992 | Annibynnol |
Masnachfreintiau Cenedlaethol | ||||
Amser Brecwast Cenedlaethol | TV-am | 1 Chwefror 1983 | 31 Rhagfyr 1992 | Annibynnol |
Gwasanaeth Teledestun Cenedlaethol | ORACLE[8] | 1974 | 31 Rhagfyr 1992 | Annibynnol |
ITV2
golyguSianel deledu digidol sydd at ddant gynulleidfa ifanc.
ITV3
golyguSianel deledu digidol sydd at ddant gynulleidfa sy'n hoffi drama a hen gomedi.
ITV4
golyguSianel deledu digidol sydd at ddant dynion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-01. Cyrchwyd 2007-07-05.
- ↑ Defnyddir enw ITV1 dros nos
- ↑ 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 3.13 "ITV1" yw'r enw a ddefnyddir fel arfer.
- ↑ Cyn 1968 roedd masnachfraint Granada Television yn cynnwys rhannau helaeth o'r hyn sydd bellach dan ardal fasnachfraint Yorkshire Television gan weithredu cytundeb ar ddyddiau gwaith yn unig.
- ↑ Ym 1968 ymestynodd masnachfraint ATV Midlands i ddarlledu saith diwrnod yr wythnos yn hytrach nag ond ar ddiwrnodau gwaith.
- ↑ Ehangodd rhanbarth TWW i orchuddio Gogledd a Gorwellin Cymru yn 1964 ar ôl datgysylltiad Wales West and North Television.
- ↑ 7.0 7.1 Prynodd TSW Westward Television yn Awst 1981, a darleddodd dan yr enw Westward tan 1 Ionawr 1982.
- ↑ Mae ORACLE hefyd yn darleddu ar S4C a Channel 4 ers Tachwedd 1982.