HTV
Cwmni teledu yng Nghymru a gorllewin Lloegr yw HTV Group plc, rhan o rwydwaith ITV. Dechreuodd ddarlledu yn 1968. Y cwmnïau teledu a oedd yn darlledu i Gymru cyn hyn oedd TWW (Television Wales and West) yn y dde-dwyrain rhwng 1958 a 1968, ac i Gymru gyfan rhwng 1964 a 1968, a WWN (Wales (West and North)/Teledu Cymru) yn y gogledd a'r gorllewin rhwng 1962 a'u fethinat yn 1964. Roedd HTV yn darlledu yn Saesneg ac ychydig o raglenni Cymraeg cyn 1982.
![]() | |
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 1968 |
Cadeirydd | William David Ormsby-Gore, 5fed Arglwydd Harlech |
Pencadlys | Caerdydd |
Rhiant-gwmni | ITV plc |
Gwefan | http://www.itv.com/wales ![]() |
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Ar ôl sefydlu S4C, yn Saesneg yn unig mae'n darlledu, er ei fod yn cynhyrchu rhaglenni Cymraeg dam gomisiwn i S4C ddarlledu. Roedd HTV yn gwmni annibynnol, ond daeth dan berchnogaeth ITV plc yn 1996. Y cadeirydd yn 1968 oedd Arglwydd Harlech a gafodd ei ladd yn 1985 mewn damwain car.
-
Logo HTV 1993-2002
-
Logo HTV 1970-1992
Erbyn 2002 doedd logo HTV ddim yn cael ei ddefnyddio. Yn hytrach defnyddid logo yr enw newydd “ITV1 Wales”.
Perchnogion ar ôl 1996
- United News and Media 1996 - 2001,
- Carlton Communications 2001 - 2003,
- ITV Plc 2003 -
Yr Amnewidiadau: ITV Wales ac ITV West golygu
Dolenni allanol golygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol HTV Archifwyd 2004-08-13 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Logo symudol HTV yn 1970au/1980au, oddiwrth 625.uk.com