Seiclwr rasio Seisnig ydy Ian Hallam MBE (ganwyd 24 Tachwedd 1948).[3] Cynyrchiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1968, 1972 ac ym 1976.

Ian Hallam
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnIan Hallam
Dyddiad geni (1948-11-24) 24 Tachwedd 1948 (75 oed)
Taldra193 cm[1]
Pwysau71 kg[1]
Manylion timau
DisgyblaethTrac a ffordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
1978–1979
1980–1982
KP Crisps - Saba
KP Crisps - Viscount[2]
Prif gampau
x2 - Gemau Olympaidd
Golygwyd ddiwethaf ar
20 Tachwedd 2008

Ganwyd Hallam ym Masford, Swydd Nottingham.[1] Deintydd yw Hallam yn ôl ei alwedigaeth[4] ond dechreuodd rasio yn ifanc. Cafodd ganlyniadau da wrth rasio ar y ffordd, gan ddod yn drydydd yn y Lincoln GP yn 1969 ac 1970, wrth gynyrchioli Beeston RC.[5] Daeth yn drydydd ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain ym 1970 ac 1972.

Roedd yn aelod o'r tîm pursuit a enillodd fedal efydd ym 1972 ac eto yn 1976.[3] Enillodd hefyd ras goffa Eddie Soens yn 1976.[6]

Cystadlodd hefyd yng Ngemau'r Gymanwlad, gan gynyrchioli Lloegr ac ennill y fedal aur yn y pursuit unigol ym 1970 ac 1974.[7]

Trodd Hallam yn reiclwr proffesiynol rhwng 1978 ac 1982 a cafodd ei noddi gan KP Crisps.

Roedd Hallam yn redio drost dîm Dataphonics yn ystod y nawdegau ynghyd a'i feibion, Ben a Duncan a oedd hefyd yn seiclwyr llwyddiannus.

Mae'n dal i gystadlu hyd heddiw, ac yn 2002 enillodd Bencampwriaethau Trac Meistri Ewrop yn y categori 50–54 oed, gan ennill y sbrint, pursuit, y treial amser a'r ras bwyntiau.[8] Ef hefyd oedd Pencampwr Pursuit Meistri'r Byd (50–54 oed) yn 2002 a 2003.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Ian Hallam. Sports Reference.
  2.  Proffil Ian Hallam. cyclingwebsite.net.
  3. 3.0 3.1  Ian Hallam MBE : Olympic Record. British Olympic Association.
  4. 4.0 4.1  World Masters Track Championships - CMM. Cycling News (5–9 Medi 2000).
  5.  THE LINCOLN GRAND PRIX CYCLE RACE (1956-2007) : A Race History by Mike Griffin.
  6.  47th Eddie Soens Memorial Cycle Race. British Cycling (1 Mawrth 2008).
  7.  Cycling gold medallists. BBC (22 Mehefin 2002).
  8.  European Masters Track Championships - 2002.

Dolenni allanol golygu