Idris Davies

glôwr, ysgolfeistr a bardd Eingl-Gymreig

Bardd o dde Cymru oedd Idris Davies (6 Ionawr 19056 Ebrill 1953). Fe'i ganwyd yn Rhymni, Sir Fynwy (bwrdeistref sirol Caerffili bellach), ac yno y bu farw. Er ei fod yn Gymro Gymraeg, ysgrifenai yn bennaf yn Saesneg.

Idris Davies
Ganwyd6 Ionawr 1905 Edit this on Wikidata
Rhymni Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 1953 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Rhymni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Nottingham Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Aeth i weithio yn y pwll glo lleol yn syth ar ôl gadael ysgol, ond wedi i'r pwll gau yn dilyn Streic Cyffredinol 1926, fe hyfforddodd i fod yn athro. Ysgrifennodd ei gerddi yn y Gymraeg ar y dechrau ond newidiodd ac ysgrifennu yn Saesneg yn unig. Ef oedd yr unig fardd i adrodd digwyddiadau pwysicaf yr 20g yng nghymoedd de Cymru o safbwynt y cymunedau glofaol.

Ei gerdd mwyaf adnabyddus yw "The Bells of Rhymney", sy'n adrodd hanes methiant Streic Gyffredinol 1926.

Dolenni allanol

golygu

Llenyddiaeth

golygu

Gweithiau

golygu

Astudiaethau

golygu
  • Islwyn Jenkins, Idris Davies (Caerdydd, 1972)
  • Islwyn Jenkins, Idris Davies of Rhymney: A Personal Memoir (Llandysul, 1986)
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.