Idris Reynolds
Mae Idris Reynolds brifardd, yn fardd toreithiog ac yn awdur nifer o gyfrolau am feirdd a barddoniaeth. Enillodd ei gyfrol Cofio Dic: Darn o'r Haul Draw yn Rhywle wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2017.[1] Mae’n byw ym mhentref Brynhoffnant gyda’i wraig Elsie. Cyhoeddwyd Ar Ben y Lôn, ei drydedd gyfrol o gerddi, yn 2019.[2]
Idris Reynolds | |
---|---|
Ganwyd | 1942 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Ennill Eisteddfod Genedlaethol
golyguEnillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1989[3] am ei gerdd Y Daith ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1992 am ei gerdd A Fo Ben a hynny degawd wedi dysgu crefft y gynghannedd.[4]
Bardd y Mis
golyguBu hefyd yn "Fardd y Mis" ar BBC Radio Cymru yn mis Chwefror 2017.[5] Bu iddo ymddangos hefyd ar Podlediad Clera ym mis Ebrill 2019.
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau gan Idris Reynolds
golygu- Ar Lan y Môr (Gwasg Gomer, 1994) [nofel]
- Draw dros y Don (Cyhoeddiadau Barddas, 2004) [cerddi]
- (gol.) Y Grefft o Dan-y-Groes (Gwasg Carreg Gwalch, 2005) [casgliad cerddi gan feirdd amrywiol]
- (gol. Elsie Reynolds) Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones (Gwasg Gomer, 2011) [cyflwyniad i'r casgliad]
- Tua'r Gorllewin: Cofiant T. Llew Jones (Cyhoeddiadau'r Gair, 2011)
- (gol.) Y Fro Eithinog: Casgliad o Gerddi T. Llew Jones (Gwasg Gomer, 2015)
- (gol.) Cofio Dic: Darn o'r Haul Draw yn Rhywle (Gwasg Gomer, 2016)
- Ar Ben y Lôn[6] (Gwasg Gomer, 2019)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.tivysideadvertiser.co.uk/news/15660469.brynhoffnant-writer-idris-reynolds-wins-prestigious-welsh-award-for-work-on-dic-jones/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-26. Cyrchwyd 2019-08-19.
- ↑ https://www.barddas.cymru/bardd/idris-reynolds/
- ↑ https://golwg360.cymru/celfyddydau/llen/542530-cymdeithas-farddol-godre-ceredigion-ffynnu-idris
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/p04rk3hx
- ↑ "tudalen y cyhoeddwr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-19. Cyrchwyd 2019-08-19.