Podlediad Cymraeg misol yn trin a thrafod barddoniaeth yw Clera. Fe'i sefydlwyd yn Hydref 2016 a chaiff ei gyflwyno gan Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury. Daeth y podlediad i fodolaeth yn dilyn nifer o geisiadau ar Twitter am ofod o'r fath i drin a thrafod barddoniaeth Gymraeg a Chymreig ar-lein. Roedd y rhifyn cyntaf yn cynnwys trafodaeth ar fân gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol, cerdd newydd gan Osian Rhys Jones, cyfweliad â Ceri Wyn Jones yn rhinwedd ei rôl fel un o drefnwyr Gŵyl y Cynhaeaf, gwers gynganeddu a golwg ar ddigwyddiadau mis Tachwedd.[1] Mae pob rhifyn wedi hyn wedi dilyn fformat tebyg, gyda rhai ychwanegiadau ar hyd y ffordd. Mae pob rhifyn yn cynnwys yr eitemau rheolaidd a ganlyn:

  • Pwnco - trafodaeth, fel arfer yn cynnwys gwesteion, ar destun penodol sy'n gysylltiedig a'r byd barddol yng Nghymru
  • Yr Orffwysfa - cerdd wedi ei chomisiynu yn arbennig i'r orffwysfa gan fardd penodol.
  • Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog - pos misol gan Gruffudd Antur
  • Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis - cystadleuaeth ysgafn lle mae gwrandawyr y podlediad yn cynnig cynganeddion damweiniol y maent wedi eu clywed
  • Awn draw i Lydaw â'r Podlediad - eitem arbennig ar y sîn farddol yn Llydaw, sydd wedi bod yn rhan o'r podlediad ers i Aneirin Karadog a'i deulu symud i Lydaw[2]
  • Y Newyddion Heddiw - golwg ar ddigwyddiadau a newyddion barddol y mis sydd i ddod.

Yn rhifyn Hydref 2017, dechreuwyd cyfansoddi cadwyn o englynion i ddiolch i'r cyfrifydd Llŷr James am ei nawdd i'r podlediad.[3]

Gwesteion Rhifynnau'r Gorffennol golygu

  1. Hydref 2016 - Osian Rhys Jones, Ceri Wyn Jones
  2. Tachwedd 2016 - Elinor Wyn Reynolds, Gwennan Evans, Marged Tudur, Dwynwen Morgan
  3. Rhagfyr 2016 - Grug Muse, Myrddin ap Dafydd, Owain Schiavone, Mari George
  4. Ionawr 2017 - Llion Jones, Casia Wiliam, Karen Owen
  5. Chwefror 2017 - Iwan Rhys, Anni Llŷn, Arwel Vaughan Evans, Geraint Roberts
  6. Mawrth 2017 - Ifor ap Glyn, Karen Owen, Gruffudd Antur, Elis Dafydd, Marged Tudur, Leusa Llywelyn, Mihangel Morgan, Iestyn Tyne, Miriam Elin Jones
  7. Ebrill 2017 - Iestyn Tyne, Ifor ap Glyn, Tudur Dylan Jones, Tîm Talwrn Y Llew Du, Ceri Wyn Jones
  8. Mai 2017 - Anni Llŷn, Leusa Llywelyn, Hywel Griffiths
  9. Mehefin 2017 - Annes Glynn, Ceri Wyn Jones
  10. Gorffennaf 2017 (yn fyw o'r Sesiwn Fawr) - Lowri Evans, Lee Mason, Elis Dafydd, Gruffudd Antur, Jodie Jones
  11. Awst 2017 (yn fyw o'r Babell Lên) - Gwion Hallam, Morgan Owen, Anni Llŷn, Endaf Griffiths
  12. Medi 2017 - Osian Rhys Jones, Dafydd John Pritchard, Grug Muse
  13. Hydref 2017 - Hywel Griffiths, Elinor Wyn Reynolds, Philippa Gibson
  14. Tachwedd 2017 - Emyr Lewis, Cywion Cranogwen, Brigitte Cloareg
  15. Rhagfyr 2017 - Llŷr Gwyn Lewis, Anwen Pierce, Osian Rhys Jones, Llio Maddocks
  16. Ionawr 2018 - Tudur Dylan Jones, John Roberts
  17. Chwefror 2018 - Gwyneth Lewis, Karen Owen
  18. Mawrth 2018 - Osian Rhys Jones, Casia Wiliam, Stephan Phillips
  19. Ebrill 2018 - Huw Chiswell, Cleif Harpwood, Gwyneth Glyn, Twm Morys, Rhys Meirion, Elin Fflur, Alan Llwyd, Idris Reynolds
  20. Mai 2018 - Elwyn Williams, Beti George, Alan Llwyd, Ifor ap Glyn, Elis Dafydd, Idris Reynolds
  21. Mehefin 2018 - Osian Owen, Mererid Hopwood, Morgan Owen
  22. Gorffennaf 2018 - Dai Rees Davies, Emyr Pen-rhiw
  23. Awst 2018 (yn fyw o'r Babell Lên) - Betsan Moses, Rhys Iorwerth, Beth Jones, Gruffudd Eifion Owen
  24. Medi 2018 - Catrin Dafydd
  25. Hydref 2018 - Hywel Griffiths, Elena Gruffudd, Ifan Prys
  26. Tachwedd 2018 - Gruffudd Eifion Owen, Manon Awst
  27. Rhagfyr 2018 - Iestyn Tyne, Idris Reynolds
  28. Ionawr 2019 - Hywel Griffiths, Grug Muse, Gruffudd Antur
  29. Chwefror 2019 - Caryl Bryn, Ceri Wyn Jones, Myrddin ap Dafydd
  30. Mawrth 2019 - Llion Jones, Meirion Macintyre Huws
  31. Ebrill 2019 - Jim Parc Nest, Ceri Anwen James, Leusa Llywelyn, Idris Reynolds, Felix Parker Price
  32. Mai 2019 - Judith Musker Turner, Ronan Hirrien
  33. Mehefin 2019 - Gruffudd Eifion Owen, Iwan Huws, Siôn Tomos Owen
  34. Gorffennaf 2019 - Myrddin ap Dafydd, Hywel Griffiths
  35. Awst 2019 (yn fyw o'r Babell Lên) - Gruffudd Eifion Owen, Lleucu Siencyn
  36. Medi 2019 - Phil Davies, Richard Owen, Tudur Hallam

Cyfeiriadau golygu

  1. "Podlediad Clera #1". eurig salisbury (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-05-15.
  2. "Aneirin Karadog: Codi pac a symud i Lydaw" (yn Saesneg). 2018-05-08. Cyrchwyd 2019-05-15.
  3. "Podlediad Clera #13 Hydref 2017". eurig salisbury (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-05-15.