Ieithoedd Semitaidd
(Ailgyfeiriad o Ieithoedd Semitig)
Mewn ieithyddiaeth ac ethnyddiaeth mae ieithoedd Semitaidd (o "Sem" y Beibl, Hebraeg: שם, "enw", Arabeg: سام) yn deulu o ieithoedd sy'n hanu o'r Dwyrain Canol. Mae ieithoedd Semitaidd (heblaw Malteg) yn cael eu hysgrifennu o'r dde i'r chwith.
Mae ieithoedd Semitaidd yn cynnwys Arabeg, yr ieithoedd Berber, Hebraeg, Aramaeg, Amhareg a Malteg ac Tigrinya. Mae hanes a llenyddiaeth helaeth i'r ieithoedd Semitaidd. Mae Acadeg, Copteg a Ffeniceg ymysg yr ieithoedd Semitaidd nodedig sydd wedi marw.
Ieithoedd Semitaidd byw, a'r nifer o siaradwyr
golygu- Arabeg — 206,000,000
- Amhareg — 27,000,000
- Hebraeg — 7,500,000
- Tigrinya — 6,750,000
- Silt'e – 830,000
- Tigre — 800,000
- Neo-Aramaeg — 605,000
- Sebat Bet Gurage — 440,000
- Malteg — 410,000
- Syrieg — 400,000
- Ieithoed Arabaidd Deheuol — 360,000
- Inor – 280,000
- Soddo — 250,000
- Harari-21 283
Ieithoedd Semitaidd marw
golygu- Acadeg - iaith Akkadia ym Mesopotamia
- Amoreg, iaith yr Amoriad o Ammon
- Copteg - iaith hynafol o'r Aifft, iaith litwrgïaidd yr Eglwys Goptaidd
- Ffeniceg - iaith y Ffeniciaid