Amhareg
iaith
Amhareg yw iaith yr Amhariaid, grŵp ethnig mwyaf Ethiopia, ac iaith swyddogol y wlad honno. Mae hi'n iaith Semitaidd yn y teulu ieithyddol Affro-Asiaidd. Mae tua 27,000,000 o bobl yn siarad yr iaith, a'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn Ethiopia. Credir fod tua 7-15 miliwn o bobl eraill yn siarad Amhareg fel ail iaith a'r tu allan i Ethiopia. Mae rhai Rastaffariaid yn siarad yr iaith hefyd.
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Ethiopian Semitic, Ieithoedd Semitaidd |
Label brodorol | አማርኛ |
Enw brodorol | አማርኛ |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | am |
cod ISO 639-2 | amh |
cod ISO 639-3 | amh |
Gwladwriaeth | Ethiopia, Eritrea, Somalia, Swdan, Israel |
System ysgrifennu | Geʽez script |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r iaith Amhareg yn deillio o'r iaith Ethiopeg (Ge'ez), iaith litwrgaidd hynafol Eglwys Ethiopia. Er ei bod yn iaith Semitaidd o ran gramadeg mae'r Amhareg yn cynnwys nifer fawr o eiriau benthyg o'r ieithoedd Cwshitig brodorol a siaredid yn Ethiopia a rhannau o'r Swdan ac aradaloedd eraill yng Nghorn Affrica yn y gorffennol.
Geiriaduron
golygu- Amsalu Aklilu, English-Amharic dictionary (Oxford University Press, 1973)
- Baeteman, J., Dictionnaire amarigna-français (Diré-Daoua, 1929)
- Kane, Thomas L., Amharic-English Dictionary, 2 gyf. (Wiesbaden: Otto Harrassowitz, 1990)
- Leslau, Wolf, Concise Amharic Dictionary (Berkeley a Los Angeles: University of California Press, 1976)
Argraffiad Amhareg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022