Actor ac Archeolegydd o Gymro yw Dr Iestyn Jones (ganwyd Awst 1963).

Iestyn Jones
GanwydAwst 1963 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Man preswylLlanfihangel y Creuddyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharcheolegydd Edit this on Wikidata
PriodEiry Thomas Edit this on Wikidata

Ganwyd Iestyn ab Owen Jones yn Aberystwyth, Ceredigion yn Awst 1963 a chafodd ei fagu ym mhentref Llanfihangel-y-Creuddyn. Wedi actio yn y theatr, y teledu a'r radio am nifer o flynyddoedd, mae e bellach yn archeolegydd wrth ei alwedigaeth, wedi iddo gael gradd a doethuriaeth yn y maes o Brifysgol Cymru yn 2011.

Cyflwynodd y gyfres archaeoleg Olion: palu am hanes ar S4C yn 2014. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Trisgell.[1] Mae e hefyd wedi cyd-gyflwyno pedair cyfres o Cynefin ar gyfer S4C. Cynhyrchwyd y cyfresi gan gwmni Rondo. Yn ddiweddar (2021) cyflwynodd rhaglen S4C/Smithsonian ynglŷn â cherbyd gladdiad yr Oes Haearn yn Sir Benfro, "Cyfrinach y Bedd Celtaidd", a gynhyrchwyd gan Wildflame ym mis Mehefin 2021[2]

Mae'n awdur y llyfr The use of Social Space in Early Medieval Irish Houses with Particular Reference to Ulster (BAR British Series 564; 2012) a'r papur "Ulster's Early Medieval Houses" yn y cyhoeddiad Medieval Archaeology 57 (2013) tt.212-22.

Bywyd personol golygu

Mae'n byw yng Nghaerdydd, yn briod a'r actores Eiry Thomas ac yn dad i ddau o blant.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Darganfod olion teml Rufeinig yn Nyffryn Conwy. S4C (15 Awst 2013). Adalwyd ar 23 Mawrth 2017.
  2. "Cyfrinach y Bedd Celtaidd". Radio Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-15.[dolen marw]

Dolenni allanol golygu