Eiry Thomas

actores a aned yn 1968

Actores o Gymru yw Eiry Thomas (ganwyd 11 Mai 1968).

Eiry Thomas
Ganwyd11 Mai 1968 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCon Passionate, The Indian Doctor Edit this on Wikidata
PriodIestyn Jones Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Cafodd ei geni yn Abertawe. Mae'n briod a'r actor a'r archeolegydd Iestyn Jones ac mae ganddynt ddau o blant, Gruffudd a Branwen.[1][2] Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd. Astudiodd Drama yng Ngholeg Rose Bruford yn Llundain.

Ar S4C, mae wedi ymddangos yng nghyfresi drama Con Passionate, Teulu, Lan a Lawr a Byw Celwydd. Enillodd wobr Actores Gorau gan BAFTA Cymru am ei rhan yn y ffilm Gymraeg Cwcw (2008). Yn 2010 chwaraeodd un o'r prif rannau yng nghyfres uchelgeisiol Pen Talar. Yn 2019, chwaraeodd rhan Enid yng nghyfres ddrama Enid a Lucy.

Yn Saesneg, mae wedi chwarae prif rannau yn The Indian Doctor, Belonging a The Bench a rhannau gwadd yn Eastenders, Torchwood a Stella. Yn 2003, enillodd wobr Actores Gorau gan BAFTA Cymru am ei rhan yn nrama BBC Cymru The Bench. Ym mis Mai 2021, ymddangosodd yn y gyfres ddrama The Pact ar BBC One, stori gyffro wedi ei leoli mewn bragdy yng Nghymru.[3]

Mae'n un o sylfaenwyr y cwmni Theatr Pena, sy'n creu cyfleoedd i fenywod yn y theatr ac yn cynhyrchu dramâu clasurol a modern.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ps and Qs: Eiry Thomas , Wales Online, 23 Chwefror 2008.
  2.  Eiry Thomas faced a "huge challenge" playing scriptwriter Jane Jones in S4C's award-winning drama, Cwcw. Western Mail (6 Mar 2010). Adalwyd ar 30 Ionawr 2016.
  3.  Meet the cast of BBC One drama The Pact. Radio Times (17 Mai 2021).

Dolenni allanol

golygu