Igbo
iaith Niger–Congo, sy'n siarad yn Nigeria
Pwnc yr erthygl hon yw'r iaith. Am y grŵp ethnig, gweler Igboaid.
Iaith yn nheulu ieithoedd Niger-Congo ac iaith frodorol yr Igboaid yn ne-ddwyrain Nigeria yw Igbo. Rhan o glwstwr yr ieithoedd Igboid ydyw, yng nghangen yr ieithoedd Volta-Niger. Mae rhai ieithyddion yn ystyried yr ieithoedd Igboid i gyd yn dafodieithoedd neu'n amrywiadau ar Igbo.
Ysgrifennir Igbo yn yr wyddor Ladin, a gyflwynwyd yng nghyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig.
Yn nechrau'r 20g, ceisiwyd datblygu ffurf artiffisial ar Igbo ar sail pedair tafodiaith. Yn ddiweddarach datblygwyd safon lenyddol ar sail tafodieithoedd Owerri ac Umuahia.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Igboid languages. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Awst 2018.