Imiwnedd gweithredol artiffisial
Mae imiwnedd gweithredol naturiol yn golygu bod yn rhaid i unigolyn ddal y clefyd yn gyntaf er mwyn i wrthgyrff gael eu cynhyrchu. Gyda rhai clefydau sy'n arbennig o ffyrnig fel y frech wen neu'r ffliw gall hyn fod yn angheuol, gan y gall systemau'r corff fethu ag ymateb yn ddigon cyflym.
Math | imiwneiddio, imiwnotherapi, meddygaeth ataliol |
---|
Hanes golygu
I fynd i'r afael â'r broblem hon rydym yn defnyddio'r dechneg o frechu (a elwir felly yn Saesneg - vaccination- ar ôl Vaccinia, y firws brech y fuwch a ddefnyddiwyd yn wreiddiol gan Pasteur i greu imiwnedd i'r frech wen gysylltiedig ond mwy ffyrnig). Mewn gwirionedd, datblygodd y Tsieineaid frechiad, a elwir bellach yn imiwneiddio neu frechu, dros 1000 o flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, ni chafodd y dull ei ailddarganfod yn y Gorllewin, gan y gwyddonydd Ffrengig Louis Pasteur, tan ddiwedd y 1800au.
Mae'r dull hwn yn golygu derbyn dos bach o'r clefyd sy'n ysgogi lymffocytau’r unigolyn i gynhyrchu gwrthgyrff priodol. Mae'r corff yn cynhyrchu'r gwrthgyrff hyn yn weithredol yn union fel y byddai'n gwneud i haint naturiol. Yr effaith yw cynhyrchu imiwnedd i'r clefyd - er y gallai'r unigolyn gael ffurf ysgafn o'r clefyd fel sgil effaith. [1]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)