Y ffliw

(Ailgyfeiriad o Ffliw)

Afiechyd sydd yn debyg i annwyd ond yn llawer mwy trwm a pheryglus yw'r ffliw.

Y ffliw
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathacute viral respiratory tract infection, Orthomyxoviridae infectious disease, clefyd y system resbiradol, clefyd heintus firol, Virus diseases of plants, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauOerni edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Firws y ffliw

Mae'r ffliw yn glefyd yr ysgyfaint a achosir drwy heintio gan firws y ffliw. Mae'r firws yn ymledu yn y pibellau anadlu a chyrraedd yr ysgyfaint ar hyd y llwybrau anadlu, yr oesoffagws, broncws, bronciolynnau. Ceir tri math o firws ffliw: A, B ac C. Mae rhywogaethau rheolaidd o 'ffliw' yn ymgodi naill ai o'r firws ffliw A neu B. Mae ffliw B ddim ond yn effeithio ar fodau dynol. Fodd bynnag, gall ffliw A effeithio ar adar a mamolion, yn cynnwys bodau dynol, a hwn yw'r math sydd â'r potensial i achosi pandemigau byd-eang gyda bygythiad difrifol o golled bywyd.

Ceir pob is-fath o ffliw A mewn adar, ond dim ond rhai mathau a geir mewn mamolion. Mae A a B yn achosi symptomau tebyg i ffliw mewn bodau dynol. Mae math C yn brin iawn mewn bodau dynol ac mae ddim ond yn achosi symptomau ysgafn. Fel rheol bydd ffliw yn digwydd yn ystod misoedd y gaeaf.

Yn sylfaenol mae gronyn firws yn asid niwclëig sydd wedi'i amgáu mewn plisgyn neu gaen o brotein. Mae gan firws y ffliw A gaen o brotein gyda dau brotein arwyneb ar wahân, sy'n ymwthio allan o'r arwyneb yn debyg i bigynau draenog: haemaglwtinin (H) a niwraminidas (N). Mae haemaglwtinin (H) yn gyfrifol am lynu'r firws wrth y gell letyol, ac mae'n cynrychioli tua 80% o'r pigynau. Mae niwraminidas (N) yn gyfrifol am i'r gell fynd i mewn ac allan. Mae rhan fewnol y firws yn cynnwys yr asid niwclëig, RNA, sy'n dal y cod genetig ar gyfer dyblygu'r firws. Mae'r gaen o niwraminidas ar arwyneb firws y ffliw yn galluogi'r firws i hydoddi llwybr yn gemegol drwy gellbilenni’r corff dynol. Trwy wneud hyn, yn effeithiol mae'n goresgyn y celloedd. Unwaith y bydd yn y gell mae'n dyblygu i ffurfio llawer o foleciwlau firws newydd. Mae'r firysau newydd yn gadael y gell, gan ddefnyddio'r niwraminidas i dorri drwy'r gellbilen, ac yn goresgyn y celloedd cyfagos yn yr un ffordd. Caiff y gellbilen y maen nhw wedi'i gadael ar ôl ei thorri ac o ganlyniad mae'r gell ei hun yn marw. Caiff y broses hon ei hailwneud ac mae adwaith cadwynol effeithlon yn cael ei sefydlu.

Gydag amser, gall mwtaniadau yn yr RNA firaol achosi newidiadau yn y proteinau hyn - mân newidiadau (a elwir yn ddrifft antigenig) neu brif newidiadau (a elwir yn syfliad antigenig). Os oes digon o newid yn digwydd, gall y gwrthgyrff, y mae'r corff yn eu cynhyrchu drwy gofio heintiau blaenorol, fynd yn aneffeithiol yn ymladd y firws..[1]

Tarddiad golygu

Dywedir fod firws y ffliw wedi tarddu o adar a’i fod wedi cael ei drosglwyddo i anifeiliaid eraill fel gwartheg a moch. Mae'r firws yn anaml yn trosglwyddo i fodau dynol oddi wrth adar ond, pan fydd rhywogaeth yn gwneud felly, mae bodau dynol yn ei throsglwyddo i'w gilydd ac mae ffliw yn cychwyn. Pan ledodd y ffliw trwy'r byd ym mhandemig mawr 1918, bu farw mwy o bobl nag a gollwyd yn ystod Rhyfel Mawr 1914-18. Mor wael oedd y sefyllfa yng Nghaerdydd yn y flwyddyn honno nes bod prinder eirch a phrinder dynion iach i dorri beddau newydd.

Ymledu golygu

Caiff firws y ffliw ei ymledu mewn defnynnau bach o boer. Caiff ei drosglwyddo i unigolion eraill pan fydd yr unigolyn heintus yn pesychu neu disian y defnynnau o boer i'r aer o'u cwmpas. Gall cysylltiad â dwylo, hancesi papur neu hancesi sydd wedi'u heintio â'r firws hefyd ymledu'r firws. Bydd unigolion sydd â'r ffliw wedi bod yn heintus am ddiwrnod cyn i'r symptomau ddechrau a byddant yn aros yn heintus am tua phum niwrnod ar ôl i'r symptomau ddechrau. Gall plant, yr henoed ac unigolion gyda system imiwnedd wannach fod yn heintus am gyfnod hirach. Dylai unigolion sydd wedi'u heintio â firws y ffliw osgoi cysylltiad gydag eraill yn ystod y cyfnod heintus i atal yr haint rhag ymledu. Gall cymhlethdodau fel broncitis a llid yr ysgyfaint ddigwydd gyda'r henoed neu bobl gyda rhai cyflyrau, e.e. ffibrosis y bledren.

Gellir cyhoeddi epidemig os yw mwy na 400 o bobl o bob 100,000 o'r boblogaeth yn ymgynghori â'u meddyg teulu gyda ffliw neu afiechyd tebyg i ffliw bob wythnos. Mae afiechyd tebyg i ffliw yn disgrifio amrywiaeth o afiechydon, sy'n arwain i symptomau tebyg.[1]

Symptomau golygu

Y prif symptomau yw tymheredd uchel sy'n dechrau'n gyflym, a doluriau a phoenau cyffredinol. Gallwch hefyd golli chwant bywyd, a chael cyfog a pheswch sych, cras. Fel rheol bydd eich symptomau yn brigo ar ôl dau neu dri diwrnod a dylech ddechrau teimlo llawer yn well o fewn pump i wyth niwrnod, er y gall peswch a blinder cyffredinol bara dwy neu dair wythnos. Gall cymhlethdodau fel haint ar y frest effeithio ar bobl oedrannus neu bobl gyda chyflyrau meddygol arbennig. Gall hyn arwain i afiechyd difrifol a gall fygwth bywyd.

Yn y boblogaeth ddynol yn gyffredinol ceir digon o imiwnedd rhannol i rywogaethau cyfredol o'r ffliw (oherwydd eu bod yn debyg iawn i rywogaethau blaenorol gyda dim ond newidiadau bach) i gyfyngu ar ddifrifoldeb y clefyd a'i gymhlethdodau yn y rhan fwyaf o bobl. Felly rydym yn ymgyfarwyddo â ffliw fel niwsans blynyddol, ond nid, mae'n debyg, fel prif fygythiad i'r boblogaeth ddynol. Fodd bynnag, gall rhywogaethau ‘newydd’ gynhyrchu symptomau difrifol, sy'n bygwth bywyd mewn mwy o bobl, yn cynnwys llawer nad ydynt yn amlwg mewn grwpiau risg uchel. Yn y sefyllfaoedd hyn mae canran llawer uwch o bobl sy'n cael y clefyd yn marw, ac mae'r ffliw'n troi'n glefyd lladdol sydd ar yr un raddfa â'r gwaethaf.[1]

Diagnosis golygu

Gwneir diagnosis yn gyffredinol ar sail y symptomau, a ategir gan adnabyddiaeth o ba rywogaethau sy'n cylchdroi ar y pryd yn y boblogaeth. Ble mae angen adnabyddiaeth fwy penodol, e.e. yn ystod ymddangosiad rhywogaethau newydd, gellir cynnal profion ar antigenau arwyneb neu ddilyniant DNA a geir mewn samplau oddi wrth unigolion heintiedig.[1]

Triniaeth golygu

 
Brechu yn erbyn ffliw

Nid oes angen i unigolion iach gyda ffliw gysylltu â'u meddyg teulu. Mae'n well ymladd y firws. Bydd ystafell gynnes, moddion i leddfu'r cur pen a'r poen yn y cyhyrau, moddion peswch i leddfu pesychu, yn helpu gyda'r frwydr hon.

Gellir defnyddio gwrthfiotigau i drin haint eilaidd, ond nid ydynt yn cael effaith ar y ffliw. Erbyn heddiw ceir moddion gwrthfiraol ar gyfer heintiau ffliw eithafol. Mae Tamiflu yn un o'r cyffuriau hyn, sef moddion gwrthfiraol a ddefnyddir yn ystod y 48 awr cyntaf ar ôl i'r symptomau ymddangos. Mae Tamiflu'n uno â'r niwraminidas ar arwyneb y gronynnau firws ac o'r herwydd mae'n rhwystro gallu cemegol y gronynnau firaol newydd rhag dianc o'r gell heintiedig. O'r herwydd caiff firws y ffliw ei gyfyngu i nifer lai o gelloedd ac mae gan system imiwnedd y corff gwell posibilrwydd o ladd y firws.

Dim ond rhwystro’r firws gall Tamiflu ei wneud. Ar adeg benodol bydd y nifer o gelloedd heintiedig yn mynd yn rhy fawr i'r Tamiflu weithio'n effeithiol, felly dylid ei gymryd cyn gynted â phosibl Delir y drwydded ar gyfer cynhyrchu'r cyffur hwn gan Hoffman La Roche Pharmaceuticals. Fodd bynnag, pe bai pandemig yn digwydd gall Mudiad Iechyd y Byd (WHO) godi'r cyfyngiad hwn er mwyn galluogi cwmnïau eraill i gynhyrchu Tamiflu. Dim ond cyflenwad cyfyngedig o Tamiflu sy’n bodoli o ganlyniad i synthesis cymhleth y cyffur hwn a diffyg argaeledd y deunyddiau cychwynnol.

Caiff plant eu brechu'n rheolaidd yn erbyn Ffliw B gan fod yr imiwnedd a geir yn para'n ddigon hir i hyn fod yn ymarfer gwerth chweil.

Cynigir brechiadau ffliw blynyddol i rai pobl, yn enwedig y rhai sydd â risg uchel o gael cymhlethdodau sy'n bygwth bywyd o'r ffliw, fel yr henoed neu'r rhai sydd â chyflyrau a allai leihau eu hymwrthedd, e.e. ffibrosis y bledren. Mae'n bwysig sylweddoli bod pobl wedi'u brechu ddim ond yn dod yn imiwn rhag rhywogaeth gyfredol y ffliw: nid yw hyn yn golygu eu bod yn imiwn rhag pob firws ffliw.

Gall unigolion wedi'u brechu ddal i gael eu heintio gan firws y ffliw oherwydd bod y firws yn aml yn mwtanu i gynhyrchu rhywogaeth newydd sy'n ymwrthiol i'r brechlyn.[1]

Rheolaeth golygu

 
Archwilwyr Tsieineaidd ar awyren, yn wirio teithwyr ar gyfer twymyn, symptom cyffredin o ffliw moch

Mae rheoli ffliw ‘normal’ yn gyfyngedig i leddfu'r symptomau, ac annog unigolion heintiedig i aros gartref nes byddant yn peidio â bod yn heintus, ynghyd ag amddiffyniad ychwanegol fel yr amlinellir uchod ar gyfer grwpiau mewn perygl.

Mae ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn canolbwyntio ar annog ymddygiad sy'n lleihau trosglwyddiad - rheoli pesychu a thisian trwy ddefnyddio hancesi papur neu hancesi, golchi dwylo a glanhau arwynebau, ac argaeledd brechlyn ar gyfer grwpiau mewn perygl.

Mae rheolaeth llawer mwy eang yn ei lle ar gyfer y rhywogaethau ‘newydd’ o ffliw. Fel rheol y rhain yw'r rhai sydd wedi mynd drwy gyfnod hir o gronni newidiadau mwtanol ac ar yr un pryd heintio ein hanifeiliaid domestig yn ddetholus (yn enwedig dofednod a moch). Caiff y cyfryw rywogaethau eu hynysu oddi wrth y boblogaeth ddynol am amser hir, gan nad ydynt yn effeithiol fel celloedd dynol goresgynnol, ond yna yn sydyn mae rhyw newid mwtanol yn digwydd sy'n cynhyrchu rhywogaeth a all drosglwyddo i gelloedd dynol. Mae gan y boblogaeth ddynol ddim ond imiwnedd gweddilliol i'r gyfryw rywogaeth, ac os bydd y rhywogaeth yn cynhyrchu symptomau difrifol, ac mae'n ddigon heintus, gall arwain i bandemig lladdol difrifol.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)

Darllen pellach golygu

Cyffredinol

Hanes

microbioleg

Pathogenesis

Epidemioleg

Triniaeth ac ataliad

Ymchwil


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!