Imiwneiddio yw'r broses ble mae'r system imiwnedd unigolyn yn cael eu hatgyfnerthu yn erbyn asiant (a elwir yn immunogen).[1]

Imiwneiddio
Mathimmune system process Edit this on Wikidata

Ceir imiwnedd gweithredol pan fod unigolion yn cynhyrchu gwrthgyrff yn eu llif gwaed eu hun. Gall hyn ddigwydd naill ai yn naturiol pan fydd y corff wedi cael ei heintio gan glefyd, neu yn artiffisial drwy frechiad. Bydd imiwneiddio’n digwydd ar wahanol bwyntiau drwy gydol oes unigolyn, ond yn bennaf byddant yn digwydd yn ystod plentyndod.

Gall rhaglenni imiwneiddio cyffredinol arwain at ddifa clefydau.

Gall imiwnedd heidiol hefyd chwarae rhan mewn atal haint. Pan fod cyfran sylweddol o'r boblogaeth wedi cael ei brechu gallant weithredu fel amddiffyniad neu rwystr i eraill a darparu amddiffyniad i'r rhai sy’n ddiamddiffyn, trwy arafu neu stopio'r gadwyn haint.

Risgiau a buddion

golygu

Fel gydag unrhyw beth, mae imiwneiddio'n dod â nifer o risgiau. Gallai rhai unigolion gael adweithiau alergaidd prin, ond yn y rhan fwyaf o achosion mae budd imiwneiddio'n gorbwyso’r risgiau wrth ddal y clefyd ei hun ac fel rheol bydd unigolyn ddim ond yn datblygu twymyn ysgafn.

Mae rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhai imiwneiddiadau’n cynnwys:

  • Risg un o bob 1000 o gael strociau gyda'r brechlyn MMR, ond gall y risg fod cyn uched ag 1 o bob 200 os yw unigolyn yn dal y frech goch.
  • Mewn rhai achosion gall brechlyn y ffliw achosi parlys yr wyneb. Gelwir hyn yn barlys Bell. Fodd bynnag, gall y ffliw achosi marwolaeth..[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)