Awdur o'r Almaen oedd Ina Seidel (15 Medi 1885 - 2 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd telynegol a sgwennai mewn Almaeneg. Ymhlith ei hoff themâu roedd mamolaeth a dirgelion hil ac etifeddiaeth.

Ina Seidel
Ganwyd15 Medi 1885 Edit this on Wikidata
Halle (Saale) Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 1974 Edit this on Wikidata
Schäftlarn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLabyrinth Edit this on Wikidata
PriodHeinrich Wolfgang Seidel Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Gwobr Franz-Grillparzer, Gwobr Wilhelm Raabe, Urdd Teilyngdod Bavaria Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Halle (Saale), yn nhalaith Sachsen-Anhalt yn yr Almaen a bu farw yn Schäftlarn ym München.[1][2][3][4][5]

Magwareth golygu

Ganwyd Johanna Mathilde "Ina" Seidel yn Halle, yr hynaf o dri phlentyn. Hanner blwyddyn yn ddiweddarach symudodd y teulu i Braunschweig, lle cafodd ei magu am oddeutu deng mlynedd. Roedd ei thad, Hermann Seidel, yn uwch lawfeddyg ym mhrif ysbyty'r ddinas. Gadawodd hunanladdiad Hermann Seidel ym 1895 ei weddw a'i blant i fyw mewn amgylchiadau tlotach. Credir iddo gael ei yrru i ladd ei hun gan "wleidyddiaeth swyddfa" dyddiol yr ysbyty lle gweithiai.[6]

Roedd mam Ina Seidel, a anwyd Emmy Loesevitz (1861–1945), yn dod o deulu gogleddol. Ar ôl hunanladdiad Hermann aeth ei mam â'r plant i fyw ym Marburg ym 1896 ac yna i München ym 1897. A hithau yn ei arddegau, tua throad y ganrif daeth Ina Seidel i ymwneud â'r sîn gelf afieithus a leolwyd yn Schwiching, München.

Roedd brawd Ina Seidel, Willy Seidel (1887–1934), yn awdur hefyd ac roedd Annemarie Seidel (1894–1959), ei chwaer iau, yn actores.

Yn 1907 priododd Ina Seidel ei chefnder cyntaf, y gweinidog efengylaidd a'r awdur Heinrich Wolfgang Seidel (1876-1945). Arhosodd enw ei theulu yr un fath ag o'r blaen. Symudodd y cwpl i Berlin lle cafodd Heinrich blwyf dan ei ofalaeth. Y flwyddyn wedyn, yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, Heilwig, aeth Ina'n sâl gyda thwymyn. Llwyddodd i fyw bywyd confensiynol fel gwraig gweinidog, gwraig tŷ a mam, ond araf oedd ei hadferiad ac arhosodd gartref am lawer o'r amser. Ni wellodd hi'n llwyr erioed.[7]

Y llenor golygu

Daeth ysgrifennu yn rhan bwysig o'i bywyd. Ysgrifennodd gerddi a chysylltodd â llenorion aristocrataidd a oedd yn ymgynull o amgylch Börries von Münchhausen (1874–1945) a set Göttinger Musenalmanach, gan gynnwys Lulu von Strauß und Torney (1873–1956) ac Agnes Miegel (1879–1964).


Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Prwsa, Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd. [8]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth (1932), Gwobr Franz-Grillparzer (1941), Gwobr Wilhelm Raabe (1949), Urdd Teilyngdod Bavaria[9] .

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12206534x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12206534x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Ina Seidel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ina Seidel". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ina Seidel". Academi Celfyddydau, Berlin. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ina Seidel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ina Seidel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ina Seidel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12206534x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Ina Seidel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ina Seidel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ina Seidel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  6. Karin Hausen (author); Ute Frevert; Max-planck-instit Fur Bildungsforschung (1988). Bürgerinnen und Bürger: Geschlechterverhältnisse im 19. Jahrhundert : zwölf Beiträge. Vandenhoeck & Ruprecht. t. 115. ISBN 978-3-525-35739-2.
  7. Gisela Brinker-Gabler, Karola Ludwig, Angela Wöffen: Lexikon deutschsprachiger Schriftstellerinnen 1800–1945. dtv München, 1986. ISBN 3-423-03282-0. t. 270
  8. Anrhydeddau: https://www.literaturpreisgewinner.de/belletristik/wilhelm-raabe-preis. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2021.
  9. https://www.literaturpreisgewinner.de/belletristik/wilhelm-raabe-preis. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2021.