Indra
Duw grymus a gysylltir â Rhyfel a'r Tywydd yn y Veda ac sydd hefyd yn Frenin y duwiau ac Arglwydd y Nefoedd yn ei balas yn Svargaloka yn Hindŵaeth yw Indra (Sansgrit: इन्द्र neu इंद्र, Indra). Ceir y cyfeiriadau cynharaf ato yn y Rig Veda hynafol. Yno mae'n cael ei bortreadu fel cymeriad arwrol sy'n brwydro ar ran y duwiau ond sy'n hoff hefyd o garu. Ym mytholeg Hindŵaeth mae'n frenin ar y devas, ond lleihaodd ei addoliad a'i bwysigrwydd yn ddiweddarach yn dilyn cyfnod y testunau Purana gyda'r cynnydd ym mhwysigrwydd y Trimurti.
Math o gyfrwng | duw dŵr, duw taranau, duw rhyfel, Hindu deity, Rigvedic deities, Buddhist deity, character |
---|---|
Enw brodorol | इन्द्र |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ei chymar dwyfol yw'r dduwies Sachi. Fe'i portreadir yn aml yn marchogaeth yr eliffant Airavata.