Gweithwyr Diwydiannol y Byd

Undeb llafur rhyngwladol yw Gweithwyr Diwydiannol y Byd (Saesneg: Industrial Workers of the World, IWW) a sefydlwyd yn Chicago, Unol Daleithiau America, ym 1905. Ers ei gychwyn mae wedi bod yn undeb radicalaidd—yn groes i gyfalafiaeth—a châi ddylanwad mawr ar ddatblygiad y mudiad llafur torfol yn yr Unol Daleithiau. Dirywiodd ei aelodaeth yn sylweddol yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, ond mae'r IWW yn goroesi hyd heddiw gyda changhennau ar draws y byd. Llysenw poblogaidd yr IWW yw'r Wobblies.

Logo Gweithwyr Diwydiannol y Byd

Rhagflaenwyd sefydlu'r IWW gan ddeng mlynedd o streiciau a brwydrau rhwng mwyngloddwyr, perchnogion y mwyngloddiau, a'r awdurdodau lleol yng Ngorllewin yr Unol Daleithiau, gan gynnwys yn Cripple Creek, Colorado (1894), Leadville, Colorado (1896), Coeur d'Alene, Idaho (1899), a Telluride, Colorado (1903). Sbardunwyd yr IWW yn enwedig gan "Ryfeloedd Llafur Colorado", cyfres o streiciau gan weithwyr aur ac arian a melinwyr a rwystrwyd gan ymateb gwaedlyd y Gwarchodlu Cenedlaethol ym 1904. Dirprwyon o 43 o wahanol grwpiau oedd sefydlwyr yr IWW ar 27 Mehefin 1905, yn eu plith William D. Haywood o Ffederasiwn Mwyngloddwyr y Gorllewin (WFM), Daniel De Leon o'r Blaid Lafur Sosialaidd, ac Eugene V. Debs o'r Blaid Sosialaidd. Dadleuasant fod angen cyd-undeb newydd oherwydd gwrthwynebiad nifer o weithwyr i'r Ffederasiwn Llafur Americanaidd (AFL), yn enwedig agwedd yr AFL tuag at gyfalafiaeth a'i bolisi o wrthod derbyn gweithwyr anfedrus i undebau crefft.[1] Nod yr IWW felly oedd i gyfuno gweithwyr medrus ac anfedrus yn unol â'r egwyddor o "un undeb mawr".

O'r cychwyn bu'r IWW yn arddel dymchwel y drefn gyfalafol ac ennill rheolaeth ar foddion cynhyrchu a dosbarthu gan y gweithwyr, ac aeth yn fwy radicalaidd yn ystod cyfnod cythryblus o wrthdaro rhwng gweithwyr, diwydianwyr, a'r llywodraeth. Dan arweiniad "Big Bill" Haywood, bu'r chwyldroadwyr ar flaen y gad ac arddelid dactegau milwriaethus ac ideoleg anarchaidd, a byddai'r IWW yn esiampl i ddadl y syndicalwyr Americanaidd dros undebau mawr, cryf a chanoledig. Er gwaethaf rhwyg gyda Debs ym 1911, cynyddodd aelodaeth yr IWW yn sylweddol hyd at y 1920au.

Bu'r IWW ar ei anterth rhwng 1912 a 1915, gyda rhyw 100,000 o aelodau, a chafodd nifer fawr o streicwyr eu harestio. Wynebasant ymateb gwaedlyd gan warchodwyr diwydiannol a thorwyr streiciau, ond llwyddasant i ennill sawl buddugoliaeth yn erbyn y diwydianwyr, yn enwedig gan fwyngloddwyr a choedwyr yn nhaleithiau'r Gogledd-orllewin. Cafwyd un o drefnwyr y Wobblies, Joe Hill, yn euog o lofruddiaeth, ac yn sgil ei ddienyddio ym 1915 daeth yn ferthyr i'r mudiad llafur.[1]

Ym 1917, yr IWW oedd yr unig undeb llafur Americanaidd i wrthwynebu ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a byddai'r arweinwyr yn trefnu streic gan weithwyr copr yn Arizona mewn protest. Ymatebodd yr awdurdodau yn llawdrwm, gan ganiatáu posse o ddinasyddion i herwgipio'r streicwyr a'u bwrw allan o'r dalaith, ac aeth y llywodraeth ffederal ati i ddwyn arweinwyr yr IWW i brawf am dramgwyddo'r Ddeddf Ysbïo. Wedi'r rhyfel, wrth i'r economi wella a nifer o Americanwyr ofni twf Bolsieficiaeth, byddai heddluoedd a swyddogion lleol ar draws y wlad yn parhau i weithredu yn erbyn radicaliaeth yr IWW, a gostyngodd y nifer o streiciau. Cafwyd rhwyg arall, rhwng y canolwyr a'r datganolwyr, ym 1924, ac erbyn 1925 roedd yr IWW yn fudiad dieffaith gydag aelodaeth bitw.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Industrial Workers of the World. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Ebrill 2022.

Darllen pellach golygu

  • Melvyn Dubofsky, We Shall Be All: A History of the Industrial Workers of the World (Chicago, University of Illinois Press, 1988).
  • Howard Kimeldorf, Battling for American Labor: Wobblies, Craft Workers, and the Making of the Union Movement (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1999).