Tueddiad neu ideoleg o fewn y mudiad llafur yw syndicaliaeth sydd yn pleidio gweithredu uniongyrchol gan y dosbarth gweithiol er mwyn trosglwyddo perchnogaeth a rheolaeth ar foddion cynhyrchu a dosbarthu i'r undebau llafur.[1] Ei nod felly yw ysgogi rhyfel dosbarth a dymchwel y drefn gyfalafol sydd ohoni, gan gynnwys y wladwriaeth, i ennill rheolaeth gyfan gan y gweithwyr, drwy ddulliau chwyldroadol yn hytrach na diwygiadau neu'r broses seneddol. Mae syniadaeth syndicalaidd yn cyfuno damcaniaethau Marcsaidd ac anarchaidd, ac yn gwrthod yr agwedd dotalitaraidd ar gomiwnyddiaeth. Mewn cyferbyniad â sosialwyr eraill, canolbwyntia syndicalwyr ar drefnu'r dosbarth gweithiol drwy undebau llafur yn hytrach na phleidiau gwleidyddol.

Clawr "Was will der Syndikalismus?" ("Beth mae Syndicaliaeth eisiau?"), pamffled a ysgrifennwyd gan Max Baginski a'i hargraffu gan Syndicalwyr Almaenig

Blodeuai'r mudiad syndicalaidd yn Ffrainc ar ddechrau'r 20g, a chafodd ddylanwad mawr hefyd yn Sbaen, yr Eidal, ac America Ladin.

Hanes golygu

 
Poster Pyramid of Capitalist System o 1911 yn darlunio beirniadaeth y IWW o gyfalafiaeth

Datblygodd syndicaliaeth ar sail y traddodiad gwrth-seneddol a'r taliadau anarchaidd ymhlith y dosbarth gweithiol yn Ffrainc. Tua diwedd y 19g, lluniwyd athrawiaeth chwyldroadol gan arweinwyr yr undebau llafur (syndicats) a ddangosai ddylanwad cryf yr anarchydd Pierre-Joseph Proudhon a'r sosialydd Auguste Blanqui. Rhoddwyd yr enw syndicalisme révolutionnaire ar y mudiad newydd, a benthycwyd felly y term syndicaliaeth gan ieithoedd eraill.[2]

Daeth y tueddiadau hyn yn amlwg yn y 1890au o fewn y ddau brif undeb llafur yn Ffrainc, y Confédération générale du travail (CGT) a'r Fédération des Bourses du travail. Yn sgil cytundeb y ddau undeb hwn i gydweithio ym 1902,[3] bu syndicaliaeth ar ei hanterth hyd at amhariad y Rhyfel Byd Cyntaf ar y mudiad ym 1914.

Ni châi syndicaliaeth fawr o ddilynwyr ym Mhrydain ac Iwerddon, am i'r mudiad llafur uno i gefnogi'r Blaid Lafur a sefydlwyd ym 1900.[4]

Ar ochr draw'r Iwerydd, sefydlwyd Gweithwyr Diwydiannol y Byd (IWW) yn Unol Daleithiau America ym 1905. Byddai'r undeb mawr hwn yn esiampl i ddadl y syndicalwyr Americanaidd dros undebau cryf a chanoledig, tra'r oedd y Ffrancod ac Ewropeaid eraill yn ffafrio mân-undebau lleol. Pasiwyd deddfau i gwtogi ar weithgareddau'r syndicalwyr mewn sawl talaith yn yr Unol Daleithiau.[5]

Pallodd y mudiad syndicalaidd yn y 1920au, a throdd nifer o'i gyn-gefnogwyr at grwpiau chwyldroadol eraill megis y Trotscïaid, neu at bleidiau adain-chwith anchwyldroadol.

Syniadaeth golygu

 
Rali Gŵyl Fai Syndicalwyr yn Stockholm, 2010

Yn ôl y meddylfryd syndicalaidd, dwy swyddogaeth sydd gan yr undeb llafur: i drefnu'r gweithwyr ar gyfer y rhyfel rhwng y dosbarthiadau, ac i ddarparu'r craidd elitaidd ar gyfer cymdeithas wedi'r chwyldro. Byddai'r dosbarth gweithiol yn cael ei ryddhau trwy weithredu uniongyrchol, yn enwedig tacteg y streic gyffredinol, yn hytrach na thrwy'r broses seneddol neu wrthryfel gwleidyddol. Buont hefyd yn arddel difrod bwriadol a thactegau eraill a ystyriwyd yn filwriaethus gan sosialwyr anchwyldroadol.

Mae syndicaliaeth yn ystyried y wladwriaeth yn fodd i'r drefn gyfalafol orthrymu'r dosbarth gweithiol, ac yn sefydliad biwrocrataidd, aneffeithlon na allai gael ei addasu at gymdeithas sosialaidd. Dadleuant felly o blaid diddymu'r wladwriaeth yn gyfan gwbl yn hytrach na cheisio'i meddiannu neu ddiwygio.

Dychmygai'r gymuned ddelfrydol gan y syndicalwyr cynnar fel rhwydwaith o syndicats lleol, cymdeithasau rhydd o "gynhyrchwyr" (yn hytrach na gweithwyr). Byddai'r unedau sylfaenol hyn yn cysylltu a'i gilydd drwy'r bourses du travail (cyfnewidfeydd llafur), a fyddai'n gweithredu fel swyddfeydd cyflogi ac asiantaethau cynllunio economaidd. Byddai'r cynhyrchwyr yn ethol cynrychiolwyr i weinyddu'r bourse du travail lleol ac i asesu anghenion economaidd yr ardal, ac felly i gydlynu'r drefn ddiwydiannol gyda'r bourses eraill.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  syndicaliaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Medi 2021.
  2. Ystyr syndicalisme ar ben ei hun yn Ffrangeg yw "undebaeth lafur".
  3. (Saesneg) Syndicalism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Medi 2021.
  4. J. A. Cannon, "Syndicalism" yn The Oxford Companion to British History. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 10 Medi 2021.
  5. Gordon S. Watkins, "Syndicalism" yn Dictionary of American History. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 10 Medi 2021.

Darllen pellach golygu

  • Howard Kimeldorf, Battling for American Labor: Wobblies, Craft Workers, and the Making of the Union Movement (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1999).