Inis Mór
Inis Mór neu Árainn Mhór (Saesneg: Inishmore, yw'r fwyaf o Ynysoedd Arann ym Mae Galway, Gweriniaeth Iwerddon. Mae gan yr ynys arwynebedd o 31 km² (12 mi²).
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Prifddinas | Kilronan ![]() |
Poblogaeth | 845 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Arann ![]() |
Sir | Contae na Gaillimhe ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 31 km² ![]() |
Uwch y môr | 123 metr ![]() |
Gerllaw | Bae Galway ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1236°N 9.7275°W ![]() |
Hyd | 14 cilometr ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d6/Aranislandssatmap.jpg/240px-Aranislandssatmap.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fd/Inishmore1.jpg/240px-Inishmore1.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5e/Inishmore_Cross.jpg/240px-Inishmore_Cross.jpg)
Yr hen enw at yr ynys oedd Árainn Mhór, wedi ei Seisnigo i Aranmore, ond gan fod hyn yn peri dryswch gydag Arranmore, Swydd Donegal, newidiwyd yr enw i Inis Mór ("Ynys Fawr").
Mae'r ynys yn un o gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg a'i diwylliant, ac mae'n rhan o'r Gaeltacht. Ceir nifer o henebion nodedig yma, yn arbennig Dún Aengus, caer o Oes yr Haearn. Oherwydd hyn, mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Cysyllrir yr ynys a'r tir mawr gan fferi Aran Direct o Rossaveal ac mae cwmni Aer Arann yn hedfan yno.
Ar Inis Mór y ganed y llenor Liam O'Flaherty, ac mae ei blentyndod yno yn sail i lawer o'i waith. Y dref fwyaf yw Kilronan.