Inview Technology
Cwmni cyfyngedig sy'n arbenigo mewn troi teledai rhad yn deledu clyfar ydy Inview Technology, sydd wedi'i leoli yn Northwich, Lloegr. Drwy naill ai sglodyn silicon arbennig neu set-top-box mae'n galluogi'r gwyliwr i uno (ac i dderbyn) sawl technoleg: fideo-ar-gais, llifo sain, sianeli terestial arferol, rhwydweithio cymdeithasol ar-lein a chynnwys lleol. Mae'r cwmni'n allforio'u cynnyrch ledled y byd.
Enghraifft o'r canlynol | busnes |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2006 |
Sylfaenydd | Ken Austin |
Ffurf gyfreithiol | cwmni cyfyngedig |
Pencadlys | Northwich |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://inview.tv/ |
Mae'r cwmni yn bartneriaid gyda nifer o grwpiau megis Teletext ac Acetrax.[1] Mae'r Cadeirydd, Ken Austin yn byw yng Nghymru ac yn flaenllaw ym maes yr EPG (Electronic Programme Guide) ers blynyddoedd[2] a Chymro arall, sef Gareth Jones, yw'r Prif Dechnegydd (CTO).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Radio Times to run Freeview EPG". Broadband TV News. 2011-01-31.
- ↑ "Inview's own Oficial Wepsite". Inview. 2012-03-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-24. Cyrchwyd 2012-06-05.