Ioan Matthews
Dr Ioan Matthews (ganwyd 1966) yw Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig, Dr Lowri Lloyd, a'u merch.
Astudiodd Ioan ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd lle graddiodd mewn Hanes, cyn sicrhau doethuriaeth ar hanes cymdeithasol y maes glo carreg. Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am un flynedd ar ddeg, ac yn bennaeth yr Ysgol Hanes yno rhwng 1999 a 2002. Wedi hynny, bu’n gweithio ar lefel genedlaethol yn hybu addysg cyfrwng Cymraeg, i ddechrau ym Mhrifysgol Cymru ac wedyn yn y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (a ddaeth yn rhan o’r Coleg Cymraeg yn 2011).[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Cyhoeddiadau/Rhaglen IALC 2017 - Terfynol (Single pages).pdf Comisiynydd y Gymraeg[dolen farw], ad-alwyd 31.07.2017.