Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mewn partneriaeth â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu addysg uwch ar gyfer myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.[2] Nod y coleg ffederal hwn yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod y gefnogaeth ar gyfer y myfyrwyr hynny, ansawdd yr addysg, a phrofiadau astudio’r myfyrwyr, o’r safon uchaf. Erbyn Tachwedd 2015 roedd y Coleg yn cyflogi 115 o ddarlithwyr.[3] Prif Weithredwr y Coleg yw Dr Ioan Matthews a'i Gofrestrydd yw Dr Dafydd Trystan.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Logo'r Coleg
Sefydlwyd 2011
Math Cyhoeddus
Canghellor Dr Haydn Edwards (Cadeirydd)
Lleoliad Caerfyrddin, Baner Cymru Cymru
Tadogaethau Prifysgol Cymru
Gwefan http://www.colegcymraeg.ac.uk/
Graff cynnydd myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg; hyd at 2015.[1]

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 i weithio gyda phrifysgolion Cymru, er mwyn datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Nid oes gan y Coleg ei gampws ei hun, ond mae’n gweithio trwy nifer o 'ganghennau' ar draws y prifysgolion yng Nghymru.[4]

Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt lleol i fyfyrwyr. Mae’r dewis o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a gynigir wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae dros 500 o wahanol raddau ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, ynghyd â 150 o ysgoloriaethau israddedig a ddyfernir i fyfyrwyr bob blwyddyn. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw gorff fynd ati i gynllunio cyrsiau gradd cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol ar gyfer myfyrwyr.

Ceisia'r Coleg roi mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, hyfforddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg newydd, datblygu modiwlau ac adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac ariannu ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedigion.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae modiwlau sy'n cael eu cynnig ar yr un pryd mewn mwy nag un brifysgol wedi dod yn fwy amlwg, gyda nifer o enghreifftiau llwyddiannus ym meysydd y Gwyddorau Amgylcheddol, y Diwydiannau Creadigol, y Gyfraith, Cerddoriaeth, Hanes ac Ieithoedd Modern Ewropeaidd.

Y Porth

golygu

Mae llwyfan e-ddysgu’r Porth yn galluogi prifysgolion i rannu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.[5] Felly, mae modd manteisio ar y technolegau e-ddysgu diweddaraf. Mae hefyd yn cynnig adnoddau astudio sy’n ehangach na’r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr yn eu prifysgol leol. Mae'r adnoddau'n cynnwys:

  • deunydd cynnwys agored e.e. cyfres o eiriaduron pynciol i fyfyrwyr
  • cyrsiau a modiwlau sy’n berthnasol i gynlluniau gradd penodol o faes Addysg i’r Gwyddorau Biolegol
  • oriel gwe sy’n cynnwys gwefannau perthnasol o ddiddordeb i fyfyrwyr sy’n astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • fideos am feysydd penodol

Datblygwyd yr holl adnoddau a modiwlau ar y Porth gan ddarlithwyr o brifysgolion Cymru trwy nawdd a chydweithrediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (a'r Ganolfan Addysg Uwch cyn Ebrill 2011). Mae ystod eang o'r meysydd a welir ar y Porth yn adlewyrchiad o'r datblygiadau sylweddol sydd wedi bod yn y sector, ac mae'r Porth bellach yn ganolog i'r holl ddatblygiadau yn y sector Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg.

Ysgoloriaethau Myfyrwyr

golygu

Bob blwyddyn mae’r Coleg yn dyfarnu tua 150 o ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig a fydd yn dilyn cyrsiau gradd mewn prifysgolion drwy Cymru benbaladr. Ceir dau fath o ysgoloriaeth – Prif Ysgoloriaethau ac Ysgoloriaethau Cymhelliant. Mae’r Prif Ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf ddwy ran o dair o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. O wneud hyn, gellir ymgeisio am un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg, gwerth £3,000 dros dair blynedd (£1,000 y flwyddyn). Mae bron i 300 o wahanol gyrsiau gradd bellach yn cynnwys digon o fodiwlau cyfrwng Cymraeg i fod yn gymwys ar gyfer y Prif Ysgoloriaethau.

Yn wahanol i’r Prif Ysgoloriaethau, mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cyrsiau gradd penodol yn un o’r deg maes academaidd canlynol: Daearyddiaeth, Bioleg a Gwyddorau’r Amgylchedd, Busnes a Rheolaeth, Gwaith Cymdeithasol, Gwyddorau ac Astudiaethau Chwaraeon, Y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd, Ieithoedd Modern, Mathemateg a Ffiseg, Seicoleg a Cemeg.[6]

Mae’r Ysgoloriaethau hyn yn cynnig £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) am astudio o leiaf draean o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwerddon

golygu
 
Hafan Gwerddon

Cyfnodolyn academaidd Cymraeg yw Gwerddon, sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd o'r Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau ddwywaith y flwyddyn yn gydnaws â gofynion ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’. Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod mor eang â phosibl o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Y ffisegydd Dr Eleri Pryse yw Cadeirydd newydd Bwrdd Golygyddol Gwerddon.[7]

Yn ystod y 2010au gwelwyd cynnydd sylweddol ym maes ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y gymuned academaidd. Fel rhan o'r ymdrech i hyrwyddo statws yr iaith o fewn addysg uwch, ystyriwyd ei bod yn hanfodol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng ymchwil. I’r perwyl hwnnw, penderfynwyd sefydlu cyfnodolyn academaidd gyda chyfundrefn arfarnu annibynnol a fyddai'n fforwm ar gyfer cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007.

Cymrodyr er Anrhydedd

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyfri Trydar y Coleg Cymraeg; adalwyd 10 Tachwedd, 2015
  2. "Newyddion", Coleg Cymraeg: Pum swydd ddarlithio (BBC Cymru), http://www.bbc.co.uk/newyddion/21451614, adalwyd 30 Tachwedd 2010
  3. Cyfri Trydar y Coleg Cymraeg; adalwyd 10 Tachwedd, 2015
  4. "Adroddiad yr Athro Robin Williams ar gyfer model Coleg Ffederal", Addysg a Sgiliau (Llywodraeth Cymru), http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/reports/colegffederal/?lang=cy, adalwyd 30 Tachwedd 2010
  5. "Y Porth", Llwyfan e-ddysgu y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw'r Porth, sy'n galluogi prifysgolion Cymru i rannu adnoddau cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol (y Coleg Cymraeg Cenedlaethol), http://www.porth.ac.uk/cy/, adalwyd 30 Tachwedd 2010
  6. "Prosbectws 2014", Ysgoloriaethau (Y Coleg Cymraeg), http://www.colegcymraeg.ac.uk/prosbectws/pdf/ccc_prosbectws2014_cy.pdf, adalwyd 30 Gorffennaf 2013[dolen farw]
  7. "Gwerddon", Hafan (Y Coleg Cymraeg), http://www.gwerddon.org/cy/hafan/, adalwyd 30 Gorffennaf 2013
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-23. Cyrchwyd 2019-10-22.

Dolenni allanol

golygu