Iogwrt
Bwyd lled-solet tebyg i gwstard gyda blas egr wedi'i wneud o laeth trwy eplesiad yw iogwrt. Mae'r enw yn dod o yoğurt, gair Tyrceg. Fel arfer, defnyddir llaeth buwch yn bennaf i wneud iogwrt y dyddiau hyn, ond gellir defnyddio llaeth unrhyw anifail megis geifr.
Yn ystod eplesiad, mae'r siwgr llaeth lactos yn troi i asid lactig. Defnyddir nifer o facteria i wneud hynny, fel arfer Streptococcus salivarius neu Lactobacillus bulgaricus. Mae'r bacteria yn bwyta'r lactos ac mae'r asid lactig yn dod yn wastraff yn ystod y broses. Am fod y proteinau yn ceulo oherwydd yr asid mae iogwrt yn fwy soled na llaeth.
Mae iogwrt yn cynnwys ensymau sydd yn cynorthwyo i dorri y lactos i lawer yn ogystal â llawer o broteinau, rhai fitaminau o'r grŵp B a mwynau. Mae e'n cynnwys llawn cymaint o frastr â'r llaeth a ddefnyddir i'w gynhyrchu.