Math o saws melyn, melys a fwyteir i bwdin ydy cwstard. Mae'n gymysgedd o laeth, melynwy wedi'u curo, siwgr a chynhwysion eraill e.e. hufen, blawd, neu fanila i'w flasu. Gall fod yn hylif, tenau rhedegog e.e. Crème anglaise neu'n dew e.e. math o gwstard yw crème pâtissière a ddefnyddir y tu fewn i éclairs.

Cwstard ŵy
Cwstard ŵy
Cwstard traddodiadol
Cwstard gyda blawd

Fel arfer, fe'i gwneir mewn sosban, er y gellir hefyd defnyddio bain-marie. Mae'n bosib gor-goginio'r cwstard, sydd fel arfer yn twchu pan fo'r tymereddd yn cyrraedd 70 °C a gall orgoginio pan fo'r tymheredd yn 70 °C.[1] Defnyddir llestr o ddŵr i drosglwyddo gwres yn araf a'i symud o'r gwres pan fo wedi cyrraedd ei dymheredd cywir, a chyn iddo geulo.[2]

Cyfrol i blant: Help! Mae 'Na Hipo yn y Cwstard!

Yn draddodiadol yng Nghymru, ceir dau brif fath: cwstard wedi'i wneud gyda blawd neu india corn mewn sosban a chwstard ŵy, a wneir fel arfer yn araf mewn popdy, ar dymheredd is.

Defnyddiwyd cymysgedd o wyau a llaeth wedi'i twchu gan wres ers yr Oesoedd Canol yn Ffrainc, ac oddi yno y daw'r gair. Mae'n tarddu o'r gair Ffrangeg croustade, neu grwstyn,[3] sy'n tarddu o'r gair Lladin crustāre[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Barham, Peter (2001). The science of cooking. Berlin: Springer. t. 126. ISBN 3-540-67466-7.
  2. McGee, Harold (1984). On Food and Cooking. t. 71. ISBN 0-684-18132-0.
  3. Oxford Companion to Food, s.v. 'custard'
  4. Skeat, Walter William (1911). A concise etymological dictionary of the English language. Oxford: American Book Company (1890). LCCN 11035890. OL 16525337M. Text "American Book Company" ignored (help) Tudalen 125.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gynnyrch llaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.