Roedd Iolaire yn gwch y suddodd ger harbwr Steòrnabhagh ar 1 Ionawr 1919 mewn storom. Adeiladwyd y cwch yn Leith yn iard Ramage a Ferguson ym 1881, ac oedd o’n gwch preifat yn wreiddiol. Llogwyd y cwch gan y llynges ym 1915. Enwau cynharach y cwch oedd Amalthea, Iolanthe a Mione[1]. Bu farw o leiaf 201 o’r 283 pobl ar y cwch, y mwyafrif yn forwyr ar eu ffordd adref ar ôl gwasanaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyraeddasant Kyle of Lochalsh ar drenau. Roedd y fferi’n llawn, felly anfonwyd y gweddill ar Iolaire.[2]

Iolaire
Enghraifft o'r canlynolllong Edit this on Wikidata
Map
Gweithredwry Llynges Frenhinol Edit this on Wikidata
GwneuthurwrFerguson Marine Edit this on Wikidata
RhanbarthYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
Yr Iolaire ym 1908, gyda'r enw 'Amalthea'

Nofiodd John Finlay i’r lan gyda raff, ac achubwyd tua 40 ohonynt gan ei weithred.[2]

Gardd goffa i'r Iolaire, Steòrnabhagh
Cofeb i'r Iolaire, Holm

Codwyd cofeb ym 1958 yn Holm, ger Steòrnabhagh.[3] Mae cofeb arall yn y dref, ac mae pilar ar safle’r llongdrylliad, yn ymyl yr harbwr.

Ystyr ei enw yw Eryr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Swyddfa Cofnodion yr Alban
  2. 2.0 2.1 Gwefan BBC
  3. "Iolaire Memorial". Gazetteer for Scotland. Cyrchwyd 2009-07-26.