Llongddrylliad
Llong neu gwch yn dryllio a suddo, yw llongddrylliad, a hynny fel arfer yn y môr. Gan fod gan Gymru cymaint o arfordir, cafwyd llawer o longddrylliadau dros y blynyddoedd. Crêd y Cenhedloedd Unedig fod oddeutu 3 miliwn o longau ar wely'r môr.[1]
Math | ol-argyfwng, wreck |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llongddrylliadau enwog
golyguCymru
golyguEfallai mai llongddrylliad y Royal Charter ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn ger pentref Moelfre ar 26 Hydref 1859 yw'r enwocaf. Roedd y Rothsay Castle yn stemar padl a longddrylliwyd ar Draeth Lafan ym mhen dwyreiniol Afon Menai, gogledd Cymru, yn 1831. Collwyd 130 o fywydau yn y drychineb.
Claddwyd Adeline Coquine (nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte) pan aeth y La Jeune Emma i lawr ger Cefn Sidan yn 1828. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.
Tancer olew oedd y Sea Empress. Aeth hi ar y creigiau ger Milffwrd ger Aberdaugleddau ar 15 Chwefror, 1996 pan roedd hi'n cludo olew crai i Gymru. Yn ystod y drychineb hon rhyddhawyd tua 72,000 tunnell fetrig o olew crai ysgafn i'r môr a thua 250 tunnell fetrig o'r olew tanwydd trwm a defnyddiwyd i yrru peiriannau'r llong.
Tu hwnt i arfordir Cymru
golyguYr enwocaf, yn ddi-ddadl, ydyw'r Titanic, a ddechreuodd ei thaith gyntaf o Southampton i Efrog Newydd ar 10 Ebrill 1912 ac a longddrylliwyd gan fynydd rhew ar 15 Ebrill, rhyw 400 o filltiroedd o Newfoundland.
Llong deithio gefnforol yn perthyn i Linell Cunard oedd yr RMS Lusitania, a adeiladwyd yn Clydebank yn yr Alban. Ar y 7 Mai 1915, cafodd ei suddo yn ddirybudd gan dorpido a daniwyd gan y llong danfor U-20 gyferbyn Kinsale ar arfordir deheuol Iwerddon. Collwyd 1198 o fywydau a dylanwadodd hyn ar farn gyhoeddus yn erbyn yr Almaen; dylanwadodd hefyd ar benderfyniad yr Unol Daleithiau i ymuno â'r rhyfel yn erbyn yr Almaen.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Curse of the $500 million sunken treasure" Archifwyd 2008-09-14 yn y Peiriant Wayback