Iris Williams
Mae Iris Williams OBE (ganwyd 20 Ebrill 1944) yn gantores Gymreig.[1]
Iris Williams | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ebrill 1946 Pontypridd |
Man preswyl | Tonyrefail |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cerddor jazz |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Williams ym Mhontypridd, o ganlyniad i berthynas all-briodasol a gafodd ei mam gyda GI Americanaidd tra bu ei gŵr yn y fyddin. Gwrthododd gŵr ei mam ei magu a chafodd ei danfon i gartref plant amddifad, cyn cael ei maethu gan Bronwen Llywelyn yn Nhonyrefail, Mrs Llywelyn fagodd y diddordeb yn Williams mewn cerddoriaeth.[2]
Gyrfa
golyguEnillodd ysgoloriaeth i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a thra yn y coleg dechreuodd ymddangos ar y rhaglen Disc a Dawn, y ddynes groenddu cyntaf i ymddangos ar raglen deledu Cymraeg. Ym 1968 cyhoeddodd ei record gyntaf, record estynedig yn cynnwys y caneuon Tra Byddo Dŵr; Y Cobler Du Bach, Mi Fûm Yn Caru ac Y Gog Lwydlas.[3] . Ym 1974 enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân I Gael Cymru'n Gymru Rydd. Daeth i frig siartiau'r DU ym 1979 gyda'r gân He Was Beautiful, bu ganddi hefyd gyfres deledu Saesneg ar y BBC. Ers 1991 mae Williams wedi bod yn byw yn Efrog Newydd, lle mae hi'n perfformio'n rheolaidd ar y gylchdaith canu Jazz. Ym 1999 bu Williams yn un o'r sêr a fu'n perfformio mewn cyngerdd arbennig i ddathlu agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Anrhydeddau
golyguYm 1999 gwnaed Williams yn Gymrawd Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn 2004 dyfarnwyd yr OBE iddi[4], mae hi hefyd, ers 2006, yn aelod o Orsedd y Beirdd.[5]
Teulu
golyguPriododd Clive Pyatt ym 1982 a chafodd eu mab Blake ei eni ym 1984.