Disc a Dawn
Rhaglen gerddoriaeth oedd Disc a Dawn a gydnabyddir fel y rhaglen deledu pop Cymraeg cyntaf. Cynhyrchwyd y gyfres gan BBC Cymru.[1] Cynhyrchwyd gan Ruth Price bu hefyd yn gyfrifol, dan arweinyddiaeth Meredydd Evans, Pennaeth Adloniant Ysgafn y BBC yng Nghymru, am ddechrau rhaglen gerddoriaeth ysgafn Gymraeg flaenorol, Hob y Deri Dando ym 1964.
Disc a Dawn | |
---|---|
Genre | Cerddoriaeth |
Cyflwynwyd gan | Huw Jones |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Ruth Price |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC Cymru |
Rhediad cyntaf yn | 1967-1973 |
Cronoleg | |
Olynydd | Gwerin 74 |
Un o'r cyflwynwyr cynnar oedd Huw Jones.[2] Cyfansoddwyd cerddoriaeth agoriadol y rhaglen gan Meic Stevens.[3] Ymddangosodd nifer o artistiaid poblogaidd y cyfnod ar y rhaglen yn cynnwys Meic Stevens, Heather Jones, Iris Williams a'r Y Tebot Piws. Dilynwyd y gyfres gan y rhaglen Gwerin 74 a oedd yn adlewyrchu tyfiant cerddoriaeth werin yn y cyfnod.[4]
Y rhaglen bop/roc nesaf i'w ddarlledu gan y BBC oedd Twndish yn 1977.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hefin Wyn (2002). Be Bop a Lula'r Delyn Aur - Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg. Y Lolfa. ISBN 9780862436346
- ↑ Huw Jones. BBC Cymru. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
- ↑ Mark Rees. The Little Book of Welsh Culture (yn en). The History Press. ISBN 9780750969222
- ↑ (Saesneg) BBC Handbook 1975. BBC (1975). Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
- ↑ Geraint Griffiths. Injaroc. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
Dolenni allanol
golygu- Teitlau Disc a Dawn ar YouTube