Iris de Freitas
Iris de Freitas (neu Iris de Freitas Brazao; 29 Hydref 1896 - 1989) oedd y fenyw gyntaf yn y Caribî i fod yn gyfreithwraig.[1][2] Ganwyd yn Georgetown, Gaiana. Marchnatwr oedd ei thad, M. G. de Freitas, ac roedd ganddi o leiaf un brawd, sef Stanley. Aeth Iris i Brifysgol Toronto yng Nghanada ym Medi 1918, ond byr fu ei chyfnod yno a gadawodd ar 5 Rhagfyr 1918 er mwyn mynd i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.[3]
Iris de Freitas | |
---|---|
Llun a gymeryd gan H.H. Davies o Heol y Wig, Aberystwyth c. 1922-23. | |
Ganwyd | 29 Hydref 1896 Bridgetown |
Bu farw | 21 Mai 1989 Georgetown |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr |
Cofrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yng ngwanwyn 1919. Bu'n byw yn Neuadd Alexandra, Aberystwyth, sef y neuadd breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru, a thrwy holl wledydd Prydain.[4] Astudiodd fotaneg, Lladin a ieithoedd modern eraill, a'r gyfraith. Bu hefyd yn Gynrychiolydd y Myfyrwyr ar Gyngor y Coleg a hefyd yn Llywydd Adran y Merched ar y Cyngor. Graddiodd gyda Bagloriaeth yn y Celfyddydau yn 1922 a Bagloriaeth yn y Cyfreithiau yn 1927.
Iris de Freitas oedd y gyfreithwraig gyntaf yn Ynysoedd y Caribî, a'r fenyw gyntaf yno i erlyn mewn llys barn achos o lofruddiaeth.[4]
Yn 2016 enwyd ystafell yn Llyfrgell Syr Hugh Owen ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ei hôl.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "DE FREITAS BRAZAO, IRIS (1896 - 1989), cyfreithiwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-09-03.
- ↑ Women and the Law gan Joan Brathwaite pennod: “Some Firsts for Women in the Law”
- ↑ aberrarebooks.wordpress.com; adalwyd 21 Tachwedd 2016.
- ↑ 4.0 4.1 "'Wonderful Welsh Women - Iris de Freitas' Fideo Youtube a gynhyrchwyd gan fudiad Chwarae Teg". Youtube. 6 Ebrill 2019. Missing or empty
|url=
(help)