Georgetown, Gaiana
prifddinas Gaiana
Prifddinas Gaiana yn Ne America yw Georgetown. Saif ar aber afon Demerera, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 225,800. Mae'n bothladd pwysig, yn allforio aur, siwgwr a reis ymysg nwyddau eraill.
![]() | |
Math |
prifddinas, dinas ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Siôr III ![]() |
| |
Poblogaeth |
200,500 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i |
P'yŏngyang, St. Louis ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Demerara-Mahaica ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
147.6 km² ![]() |
Uwch y môr |
0 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Demerara, Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau |
6.7833°N 58.1667°W ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd y ddinas dan yr enw Longchamps gan y Ffrancwyr yn niwedd y 18g. Yn ddiweddarach, daeth i feddiant yr Iseldiroedd, a newidiwyd yr enw i Stabroek. Wedi i'r ardal ddod i feddiant y Deyrnas Unedig yn nechrau'r 19g, newidiwyd yr enw eto i "Georgetown".
EnwogionGolygu
- Iris de Freitas, cyfreithwraig a astudiodd yn Aberystwyth
- Hamilton Green (g. 1934), prif weinidog Gaiana 1985-1992
- Rupert Roopnaraine (g. 1943), awdur
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Amgueddfa Genedlaethol Gaiana
- Eglwys gadeiriol Brickdam
- Eglwys gadeiriol Sant Siôr
- Eglwys Sant Andrew
- Marchnad Stabroek
- Neuadd y ddinas