Is Nyfer
Un o ddau gwmwd cantref Cemais yn nheyrnasoedd Dyfed a Deheubarth yn yr Oesoedd Canol oedd Is Nyfer. Fe'i lleolir ar lan Bae Ceredigion yng ngogledd-ddwyrain y Sir Benfro bresennol i'r dwyrain o fynyddoedd Y Preseli.
Dynodai Afon Nyfer y ffin o fewn cantref Cemais rhwng Is Nyfer a'r ail gwmwd, Uwch Nyfer. Gorweddai cwmwd annibynnol Emlyn i'r dwyrain.