Un o ddau gwmwd cantref Cemais yn nheyrnasoedd Dyfed a Deheubarth yn yr Oesoedd Canol oedd Uwch Nyfer. Fe'i lleolir ar lan Bae Ceredigion yng ngogledd-ddwyrain y Sir Benfro bresennol i'r dwyrain o fynyddoedd Y Preseli.

Map o deyrnas Dyfed yn dangos lleoliad Uwch Nyfer yng nghantref Cemais (gwyrdd tywyll, rhan isaf)

Dynodai Afon Nyfer y ffin o fewn cantref Cemais rhwng Uwch Nyfer a'r ail gwmwd, Is Nyfer. Gorweddai cantref Pebidiog i'r gorllewin. I'r de rhannai ffin â chantref Daugleddau tra yn y dwyrain ffiniai â San Clêr a chwmwd annibynnol Emlyn.

Ei ganolfan eglwysig oedd yr hen glas Celtaidd yn Nanhyfer (Nyfer). Nid oes sicrwydd am leoliad ei faenor (prif lys) ond mae'n bosibl ei fod yn Nanhyfer hefyd. Codwyd Castell Nanhyfer gan y Normaniaid ar ddechrau'r 12g ond daeth i feddiant yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth.

Gweler hefyd

golygu