Ìle

ynys yn yr Ynysoedd Heledd
(Ailgyfeiriad o Islay)

Un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Ìle (Saesneg: Islay). Hi yw'r mwyaf deheuol o Ynysoedd Heledd. Mae'r boblogaeth tua 3,000, gyda tua 35% ohonynt yn siarad Gaeleg yr Alban.

Ìle
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasBowmore Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,228 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Mewnol Heledd Edit this on Wikidata
SirArgyll a Bute Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd620 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr491 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.77°N 6.15°W Edit this on Wikidata
Hyd40 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ìle yn yr Alban

Y pentref mwyaf yw Bowmore, gyda Port Ellen a Port Charlotte hefyd yn bwysig. Gellir cyrraedd yr ynys mewn awyren o Glasgow, neu ar y fferi o harbwr Kennacraig. Mae'r ynys yn nodedig am ei wisgi; ynhlith y rhai a gynhyrchir yma mae Ardbeg, Laphroaig, Lagavulin Single Malt, Bowmore single malt, Bruichladdich, Bunnahabhain a Caol Ila. Daw llawer o adarwyr yma, yn enwedig yn y gaeaf i weld y miloedd o wyddau sy'n gaeafu yma, yn enwedig yr Wydd wyran.

Pobl enwog o Ìle

golygu
 
Harbwr Port Ellen