Isofflwran

cyfansoddyn cemegol

Mae isofflwran, sy’n cael ei werthu dan yr enw masnachol Forane ymysg eraill, yn anesthetig cyffredinol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₃H₂ClF₅O. Mae isofflwran yn gynhwysyn actif yn IsoSol, Isothesia, Isoflo, Fluriso, Terrell a Forane .

Isofflwran
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs183.971 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₃h₂clf₅o edit this on wikidata
Enw WHOIsoflurane edit this on wikidata
Clefydau i'w trinStatus asthmaticus, anhwylder niwrotig edit this on wikidata
Yn cynnwysfflworin, carbon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd meddygol

golygu

Mae isofflwran bob amser yn cael ei weinyddu ar y cyd ag aer a / neu ocsigen pur. Yn aml, defnyddir ocsid nitraidd hefyd. Fe'i defnyddir fel rheol i gynnal cyflwr anesthesia cyffredinol sydd wedi cael ei ysgogi â chyffur arall, megis sodiwm thiopental neu propoffol.

Sgil effeithiau

golygu

Mae sgil effeithiau'n cynnwys curiad calon afreolaidd, lleihad yn yr ymdrech i anadlu (iselder resbiradol), a phwysedd gwaed isel.[2]

Mae sgil effeithiau difrifol yn cynnwys hyperthermia adwythig a lefelau uchel o botasiwm yn y gwaed Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer y sawl sydd â hanes (neu hanes teuluol) o hyperthermia. Nid yw'n glir a yw defnyddio yn ystod beichiogrwydd yn niweidiol i'r plentyn, ond mae ei ddefnydd ystod toriad Cesaraidd yn iawn.

Mae isofflwran wedi cael ei ddefnyddio ers 1979. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[3]

Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Isofflwran, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Isofluranum
  • Isoflurano
  • Isoflurane
  • Forene
  • Forane
  • Compound 469
  • Aerrane
  • 1-chloro-2,2,2-Trifluoroethyl difluoromethyl ether
  • Cyfeiriadau

    golygu
    1. Pubchem. "Isofflwran". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. Aglio, Linda S.; Lekowski, Robert W.; Urman, Richard D. (2015). Essential Clinical Anesthesia Review: Keywords, Questions and Answers for the Boards (yn Saesneg). Cambridge University Press. t. 115. ISBN 9781107681309. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-20. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
    3. "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!