Ivor Emmanuel

canwr ac actor

Actor a chanwr o Gymru oedd Ivor Emmanuel (7 Tachwedd 1927 - 19 Gorffennaf 2007).

Ivor Emmanuel
Ganwyd7 Tachwedd 1927 Edit this on Wikidata
Pontrhydyfen, Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw20 Gorffennaf 2007, 19 Gorffennaf 2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • D'Oyly Carte Opera Company Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata

Ganed ef ym mhentref Pontrhydyfen, yr un pentref a Richard Burton. Lladdwyd ei rieni a'i chwaer dair oed ar 11 Mai 1941 pan oedd ef yn 14 oed pan ollyngodd awyren Almaenig fomiau ar y pentref. Cafodd Ivor ei godi gan ei fodryb, Flossie, chwaer ei fam. Goroesodd ei frawd John hefyd a magwyd ef gan yr ewythr, brawd eu tad. Aeth i weithio dan ddaear cyn cael prentisiaeth yn y gwaith dur.

Cymaint oedd ei frwdfrydedd dros gerddoriaeth roedd yn aelod o dri chôr, dwy gymdeithas opera, a hefyd gymdeithas ddrama. mae hanesion amdano yn cludo gramaffon lan y mynydd a gwrando ar recordiau o Enrico Caruso

Cafodd gymorth Richard Burton yn ei yrfa fel actor, yn enwedig roedd yn ddyledus i Burton am ran yn Oklahoma! yn Llundain. Yn y 1950au roedd yn amlwg yn y rhaglen deledu gerddorol Gwlad y Gân. Daeth yn enwog am ei ran yn y ffilm Zulu (1964), hanes brwydr Rorke's Drift yn 1879.

Aeth i fyw i Sbaen yn Benalmadena Puebio ar y Costa del Sol yn 1982 a bu farw yn Malaga yn 2007.

Baner CymruEicon actor Eginyn erthygl sydd uchod am actor o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am ganwr neu gantores. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.