Jonathan Ceredig Davies
teithiwr ac achydd
(Ailgyfeiriad o J. Ceredig Davies)
Llenor o Gymru ac arbenigwr ar lên gwerin Cymru oedd Jonathan Ceredig Davies (22 Mai 1859 – 29 Mawrth 1932). Cyhoeddai fel J. Ceredig Davies.[1]
Jonathan Ceredig Davies | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1859 Llangynllo |
Bu farw | 29 Mawrth 1932 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | achrestrydd, arbenigwr mewn llên gwerin |
Bywgraffiad
golyguBrodor o blwyf Llangynllo, Ceredigion, oedd Davies. Teithiodd yn eang a chyhoeddodd sawl llyfr taith yn cynnwys dwu gyfrol am y Wladfa, Patagonia. Ond fe'i cofir yn bennaf am ei gyfraniad i astudiaethau llên gwerin gyda'r gyfrol Folk-lore of West and Mid-Wales (1911).[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Darlith ar Batagonia (1891)
- Patagonia: a Description of the Country (1892)
- Adventures in the Land of Giants: a Patagonion Tale (1892)
- Folk-lore of West and Mid-Wales (1911)
- Welsh and Oriental Languages (1927)
- Life, Travels and Reminiscences (!927)