Mae Jabal ad Duruz (Arabeg: جبل الدروز, "Mynydd Druze"; a elwir hefyd yn Jabal el Arab, Arabeg: جبل العرب) yn ardal folcanig uchel yn ne Syria, yn nhalaith As Suwaydā (mohofazat Souweida). Ceir eira yno yn y gaeaf. Mae'r mwyafrif o'r trigolion yn bobl Druze, ond ceir cymunedau bychain o Gristnogion yn ogystal. Darganfuwyd arysgrifiadau Safaitig (math o broto-Arabeg a ddefnyddid gan y Bedouin ac eraill) am y tro cyntaf yn yr ardal hon. Bu'n dalaith hunanlywodraethol yn ystod Mandad Ffrengig Syria rhwng 1921 a 1936, dan yr un enw (Jabal el Druze (talaith)).

Jabal ad Duruz
Mathvolcanic field Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHarrat Ash Shamah Edit this on Wikidata
SirAs-Suwayda Governorate Edit this on Wikidata
GwladBaner Syria Syria
Uwch y môr1,803 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.67°N 36.73°E Edit this on Wikidata
Map
Deunyddbasalt Edit this on Wikidata

Daeareg golygu

Gorwedd maes folcanig Jabal ad Duruz, y mwyaf deheuol yn Syria, ar lwyfandir Haurun-Druze yn ne-orllewin Syria ger y ffin â Gwlad Iorddonen. Ei bwynt uchaf yw copa 1803m Tell Qeni neu Jabal ad Duruz (neu Djebel Al-Arab, Jabal ed Duruz, Jabal ad Druze, Jabal al Druz, Jebel Duraz, Djebel ed Drouz). Gorlifodd y lafa o'r maes folcanig hwn i gyfeiriad y dwyrain i ffurfio tirwedd arbennig Diffeithwch Syria.

Copaon golygu

  • Tell Qeni 1803m
  • Tell Joualine 1732m
  • Tell Sleiman 1703m
  • Tell Qleib 1698m
  • Tell Abou-Hamra 1482m
  • Tell El-Ahmar 1452m
  • Tell Abed-Mar 1436m
  • Tell Khodr-Imtan 1341m
  • Tell Azran 1220m
  • Tell Shihan 1138m

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu