Jabhat al-Nusra
Grwp arfog yn Syria yw Jabhat al-Nusra neu Ffrynt al-Nusra (Arabeg: جبهة النصرة لأهل الشام Jabhat an-Nuṣrah li-Ahl ash-Shām). Mae'n un o sawl grwp arfog jihadaidd sydd wedi ymuno yn y gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Syria. Mae'n grwp Sunni Salaffaidd sy'n deyrngar i al-Qaeda ac fe'i ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Ei bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn Syria a'i gwneud yn rhan o'r 'Califfaeth' Islamaidd arfaethedig.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad gerila, terrorist organization ![]() |
---|---|
Idioleg | Islamiaeth ![]() |
Daeth i ben | 28 Ionawr 2017 ![]() |
Rhan o | Mujahideen Shura Council, Al-Qaeda, Army of Conquest, Hay'at Tahrir al-Sham ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 23 Ionawr 2012 ![]() |
Olynwyd gan | Hay'at Tahrir al-Sham ![]() |
Sylfaenydd | Abu Mohammad al-Julani ![]() |
Enw brodorol | جبهة النصرة ![]() |
![]() |
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |

Yn Ebrill 2013, cyhoeddodd arweinydd Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant mai Jabhat al-Nusra yw ei gynghreiriad yn Syria. Cyhuddir al-Nusra o fod yn gyfrifol am sawl ymosodiad terfysgol ac o ddienyddio milwyr Syriaidd a gwrthwynebwyr eraill.
Ym Mehefin 2013, cyhoeddodd al-Nusra jihad yn erbyn Cyrdiaid gogledd Syria. Ar 5 Awst 2013, llofruddiodd rhyfelwyr al-Nusra dros 450 o bentrefwyr mewn gwaed oer, yn cynnwys 120 o blant, ym mhentref Cyrdaidd Tal Abyad.