Ysgrifennwr, rhyddieithwr a nofelydd o Wisconsin oedd Jack Ritchie (26 Chwefror 1922 - 25 Ebrill 1983).

Jack Ritchie
GanwydJohn George Reitci Edit this on Wikidata
26 Chwefror 1922 Edit this on Wikidata
Milwaukee Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1983, 23 Ebrill 1983 Edit this on Wikidata
Milwaukee Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethysgrifennwr, rhyddieithwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Arddullffuglen dditectif Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Edgar Edit this on Wikidata

Ganwyd Ritchie mewn ystafell y tu ôl i siop deilwra ei dad yn Milwaukee, Wisconsin ar Chwefror 26, 1922. Wedi iddo adael yr ysgol uwchradd, aeth yn fyfyriwr yng Ngholeg Athrawon Talaith Milwaukee . Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe ymunodd â byddin yr UD ac fe wasanaethodd yn y Môr Tawel am ddwy flynedd. Treuliodd ran helaeth o'r cyfnod hwnnw ar ynys Kwajalein . Yma am y tro cyntaf y darganfu ffuglen trosedd a dirgelwch. Yn ei amser hamdden darllenodd toreth o lyfrau dirgelwch ac yn sgîl hyn y daeth i garu'r genre.[1]

Ar ddiwedd y rhyfel, dychwelodd Ritchie i'w dref enedigol, Milwaukee. Wedi methu mynd i yn ôl i’r coleg dan amodau y Mesur GI, bu Ritchie yn gweithio am gyfnod yn siop ei dad. Gan nad oedd am ddilyn gyrfa fel teiliwr, penderfynodd Ritchie geisio ysgrifennu straeon ar gyfer ennill bywoliaeth. Ysgrifennodd mam Ritchie, Irma Reitci, straeon byrion hefyd a chyflwynodd hi ef i'r asiant llenyddol, Larry Sternig. Rhoddodd Jack gopi o stori yr oedd newydd ei hysgrifennu iddo. Cydnabu Sternig allu ysgrifennu Ritchie ar unwaith a gwerthodd y stori, "Always the Season", i'r New York Daily News ym 1953.[2]

Roedd Ritchie yn ddarllenwr brwd o lyfrau ffeithiol ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes. Roedd hefyd yn ymddiddori mewn posau geiriau a mentrodd y croesair yn y Milwaukee Journal yn ddeddfol.  Pan ofynnwyd iddo pwy a ddylanwadodd ar ei waith, dywedodd Ritchie ei fod yn edmygu ysgrifau Agatha Christie, John D. MacDonald, Raymond Chandler a Donald E. Westlake.

Yn fuan ar ôl cwblhau ei unig nofel, Tiger Island, bu farw Jack Ritchie o drawiad ar y galon yn Ysbyty Gweinyddu Cyn-filwyr ym Milwaukee. Cafodd Ritchie angladd milwrol preifat yn Milwaukee ar Ebrill 27, 1983. Yn gynnar yn y 1970au, creodd Ritchie ei ddau gymeriad cyfres poblogaidd, y fampir-ditectif Cardula, anagram o Dracula, a'r Ditectif Henry Turnbuckle. Aeth y ddau ohonynt ymlaen i ymddangos yn rhai o straeon mwyaf adnabyddus Ritchie. Daeth mwy o addasiadau teledu, gyda sawl stori yn sail i benodau'r sioe Tales of the Unexpected (cyfres deledu) . Mae un o straeon Ritchie, "The Absence of Emily", a enillodd Wobr Edgar ym 1982, wedi cael ei ffilmio ddwywaith.[3] Trwy gydol y 1970au, parhaodd Ritchie i gyfrannu straeon at amrywiol gyhoeddiadau, gan amlaf i Gylchgrawn Dirgel Ellery Queen . Roedd Ritchie hefyd yn aelod gydol oes o'r Cyngor Awduron Wisconsin, ac enillodd dair gwobr am ei straeon byrion.[2]

Cyhoeddwyd unig nofel Ritchie, Tiger Island, ym 1987, bedair blynedd ar ôl ei farwolaeth. Cyhoeddwyd straeon eraill ar ôl ei farwolaeth, a'r un ddiweddaraf oedd "The Fabricator", a ymddangosodd yn rhifyn Mai, 2009 o Gylchgrawn Dirgel Alfred Hitchcock .

Roedd Jack Ritchie yn ysgrifennwr straeon byrion toreithiog, ac ymddangosodd ei waith mewn ystod eang o gyfnodolion a phapurau newydd. Cyfrannodd nifer o straeon ffraeth a threisgar i gylchgrawn Manhunt trwy gydol yr 1950au ac ymddangosodd ei storïau eraill mewn cyhoeddiadau gan gynnwys The Philadelphia Inquirer, Stag (cylchgrawn), New York Daily Mirror, Smashing Detective Stories a Good Housekeeping. Yn y diwedd, cyhoeddodd Ritchie dros 500 o straeon. Gellir egluro'r cynifer y cyhoeddiadau a brynodd ddeunydd gan Ritchie gan fyddai ei asiant gydol oes, Larry Sternig, yn anfon llawysgrifau yn brydlon pryd bynnag y byddai cyhoeddiad newydd yn ymddangos. Fodd bynnag, i Gylchgrawn Dirgel Alfred Hitchcock y gwerthodd Ritchie fwy o straeon nag unrhyw gyfnodolyn arall, sef 123 stori dros gyfnod o 23 mlynedd, 1959-1982.  Addaswyd un o'r straeon hyn sef "The Green Heart", gan y cyfarwyddwr / seren Elaine May i'r ffilm glasurol " A New Leaf " sy'n serennu Walter Matthau.  Addaswyd "The Green Heart" hefyd yn sioe gerdd gan Charles Busch a Rusty Magee . Defnyddiwyd straeon eraill o AHMM yn y gyfres deledu boblogaidd Alfred Hitchcock Presents. Mae mwyafrif o straeon Ritchie wedi eu hailargraffu mewn cyfnodolion a blodeugerddi, a diddorol nodi fod ei stori, "For All the Rude People", wedi ei hailgyhoeddi 12 gwaith.

Mae Alfred Hitchcock, Donald E. Westlake, Anthony Boucher, Francis M. Nevins, Jr ac Edward D. Hoch . ymhlith nifer o olygyddion ac awduron amlwg yn y maes dirgel sydd wedi canmol Ritchie.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Austin, Dorothy Witte (August 29, 1962). "Necessity of Solitude". The Milwaukee Journal.
  2. 2.0 2.1 Simms, Richard. "A short biography for John George Reitci". Cyrchwyd 6 June 2012.
  3. "Jack Ritchie (I) (1922–1983)". IMDb.
  4. Simms, Richard. "Jack Ritchie: An Appreciation and Bibliography". Cyrchwyd 6 June 2012.