Wisconsin
Mae Wisconsin yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd rhwng Afon Mississippi i'r gorllewin, Llyn Michigan i'r dwyrain a Llyn Superior i'r gogledd. Mae Iseldiroedd y Canolbarth yn ildio i Ucheldir Superior yn y gogledd, sy'n rhan o Darian Canada ac yn cynnwys nifer o lynnoedd a choedwigoedd. Rhoddwyd Wisconsin i'r Unol Daleithiau gan Brydain Fawr yn 1783. Gwelwyd mewnlifiad mawr o'r dwyrain yn y 1820au. Daeth yn diriogaeth yn 1836 ac yna'n dalaith yn 1848. Madison yw'r brifddinas.
Arwyddair | Forward |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Afon Wisconsin |
Prifddinas | Madison, Wisconsin |
Poblogaeth | 5,893,718 |
Sefydlwyd | |
Anthem | On, Wisconsin! |
Pennaeth llywodraeth | Tony Evers |
Cylchfa amser | UTC−06:00, Cylchfa Amser Canolog, America/Chicago |
Gefeilldref/i | Hessen, Jalisco |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 169,640 km² |
Uwch y môr | 320 metr |
Gerllaw | Llyn Michigan, Llyn Superior, Afon Mississippi |
Yn ffinio gyda | Michigan, Minnesota, Illinois, Iowa, Ontario |
Cyfesurynnau | 44.5°N 89.5°W |
US-WI | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | government of Wisconsin |
Corff deddfwriaethol | Wisconsin Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Wisconsin |
Pennaeth y Llywodraeth | Tony Evers |
Llysenw Wisconsin yw "Talaith y Broch" (Saesneg: the Badger State), am fod broch Americanaidd i'w weld ar ben arfbais y dalaith.[1]
Dinasoedd
golyguMae'r dinasoedd yn Wisconsin gyda phoblogaeth o 50,000 neu fwy (amcangyfrifiad Cyfrifiad 2005) yn cynnwys:
- Milwaukee, poblogaeth 578,887 (ardal fetroplitaidd 1,709,926), dinas fwyaf
- Madison, 221,551 (588,885), prifddinas y dalaith
- Green Bay, 101,203 (295,473)
- Kenosha, 95,240, rhan o ardal fetropolitaidd Chicago
- Racine, 85,855, rhan o ardal fetroplitaidd Milwaukee
- Appleton, 70,217 (213,102)
- Waukesha, 67,658, rhan o ardal fetropolitaidd Milwaukee
- Oshkosh, 63,485 (159,008)
- Eau Claire, 62,570 (148,337)
- Janesville, 61,962 (154,794)
- West Allis, 58,798, rhan o ardal fetropolitaidd Milwaukee
- Sheboygan, 50,792
- La Crosse, 50,287 (128,592)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 21.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) www.wisconsin.gov