Jack Unterweger
Llofrudd cyfresol o Awstria oedd Johann "Jack" Unterweger (16 Awst 1950 – 29 Mehefin 1994) a lofruddiodd nifer o buteiniaid. Ym 1974 cafwyd ef yn euog o ladd Margaret Schäfer, Almaenes 18 mlwydd oed, trwy ei thagu â'i bronglwm ei hunan. Tra yn y carchar, bu Unterwger yn llenor cynhyrchiol. Daeth yn cause célèbre i ddeallusion Awstriaidd a bu deisebau i'w bardynu. Ym 1990 rhyddhawyd Unterweger a chyflwynodd raglenni teledu ar adferiad. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn rhydd, lladdodd chwe phutain yn Awstria. Ym 1991 aeth i Los Angeles i ysgrifennu am droseddu a phuteindra ar gyfer cylchgrawn Awstriaidd ac yn ystod ei amser yng Nghaliffornia bu farw tair putain yn yr un modd ac y bu farw Schäfer. Pan gasglwyd digon o dystiolaeth i'w arestio, ffodd Unterweger ar draws Ewrop, Canada, a'r Unol Daleithiau. Cafodd ei arestio gan yr FBI ym Miami ym 1992 a'i anfon yn ôl i Awstria. Cafodd ei gyhuddo o 11 o lofruddiaethau. Wedi iddo gael ei ddedfrydu ym 1994 i garchar am oes heb bosibilrwydd parôl, cymerodd ei fywyd ei hunan.
Jack Unterweger | |
---|---|
Ganwyd | Johann Unterweger 16 Awst 1950 Judenburg |
Bu farw | 29 Mehefin 1994 o crogi Graz |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Galwedigaeth | llenor, llofrudd cyfresol, hunangofiannydd |