Jack Windsor Lewis
Seinegydd Cymreig oedd Jack Windsor Lewis (7 Awst 1926 – 11 Gorffennaf 2021)[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith ar seineg Saesneg ac am ddysgu ynganiad Saesneg i ddysgwyr tramor.[2]
Jack Windsor Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 7 Awst 1926 Caerdydd |
Bu farw | 11 Gorffennaf 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, academydd, phonetician |
Cyflogwr |
|
Ganwyd Windsor Lewis yng Nghaerdydd, ac addysgwyd ef mewn ysgolion lleol, fel yr Ysgol Gerddi Howard.[3] Ar ôl y Gwasanaeth Cenedlaethol, astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, ym 1948-51, gan raddio gyda gradd anrhydedd mewn Saesneg Canoloesol. Aeth ymlaen i astudio seineg yng Ngholeg Prifysgol Llundain 1954-55 a 1956-57, a chael Tystysgrif y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol (Dosbarth 1af) ym 1957. Priododd Jane Peer ym 1969.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ashby, Michael (14 July 2021). "Jack Windsor Lewis (1926–2021)". International Phonetic Association. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2021.
- ↑ 2.0 2.1 John Wells (19 Gorffennaf 2021). "Jack Windsor Lewis obituary". The Guardian.
- ↑ "Brief CV". Jack Windsor Lewis. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2021.