Jacobo Árbenz
Milwr a gwleidydd o Gwatemala oedd Juan Jacobo Árbenz Guzmán (Sbaeneg: [xwaŋ xaˈkoβo ˈaɾβens ɣusˈman]; 14 Medi 1913 – 27 Ionawr 1971) a wasanaethodd yn Arlywydd Gwatemala o 1951 i 1954. Arddelai bolisïau adain-chwith, gan gynnwys diwygio tir, yn ogystal â chenedlaetholdeb economaidd, gan ddigio tirfeddianwyr, swyddogion ceidwadol y fyddin, a chwmnïau tramor. Gyda chymorth Unol Daleithiau America, cafodd ei ddymchwel mewn coup d'état.
Jacobo Árbenz | |
---|---|
Ganwyd | 14 Medi 1913 Quetzaltenango |
Bu farw | 27 Ionawr 1971 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Gwatemala |
Galwedigaeth | academydd |
Swydd | Arlywydd Gwatemala |
Plaid Wleidyddol | Revolutionary Action Party |
llofnod | |
Ganed ef yn Quetzaltenango yn ne-orllewin Gwatemala i deulu cefnog, yn fab i fferyllydd Almaeneg ei iaith o'r Swistir a'i wraig o dras festiso. Ymunodd â'r fyddin a chafodd ei hyfforddi'n swyddog yn Academi Filwrol Genedlaethol Gwatemala. Wedi iddo raddio ym 1935, cafodd ei siomi gan gamdriniaeth gwerinwyr, llafurwyr a charcharorion dan law'r unben Jorge Ubico, ac ymunodd â charfan o swyddogion adain-chwith. Dylanwadwyd ar ei feddwl gwleidyddol gan ei wraig Maria Cristina Vilanova (a briododd ym 1938) a'r comiwnydd José Manuel Fortuny.
Yn sgil gwrthryfel a arweiniwyd gan fyfyrwyr ac undebwyr llafur ym Mehefin 1944, ymddiswyddodd Ubico a sefydlwyd jwnta filwrol i lywodraethu'r wlad. Fodd bynnag, parhaodd y jwnta a'r hen bolisïau, felly yn Hydref 1944 arweiniodd Árbenz a Francisco Arana coup yn y fyddin i ddymchwel cefnogwyr Ubico a galw am etholiadau rhydd. Enillodd Juan José Arévalo yr etholiad yn Rhagfyr, a fe'i urddwyd yn arlywydd ym Mawrth 1945. Penodwyd Árbenz yn weinidog amddiffyn, a chefnogodd ddiwygiadau cymdeithasol Arévalo. Ym 1949, cafodd Árbenz ran bwysig wrth rwystro cynnig gan swyddogion y fyddin i wrthryfela.
Yn etholiad 1950 enillodd Árbenz 65% o'r bleidlais, ac olynodd Arévalo yn arlywydd ar 15 Mawrth 1951. Cychwynnodd yn y swydd gyda chefnogaeth y fyddin a phleidiau'r adain chwith, gan gynnwys Plaid Gomiwnyddol Gwatemala, ac aeth ati i gyflwyno rhagor o ddiwygiadau, gan gynnwys ehangu'r etholfraint, sicrhau hawl y gweithwyr i drefnu, a chyfreithloni rhagor o bleidiau gwleidyddol. Prif bolisi ei raglen oedd i ddifeddiannu tiroedd heb eu trin oddi ar ystadau mawr, gan roi iawndal i'r tirfeddianwyr, ac ailddosbarthu'r tir i amaethwyr tlawd. Manteisiodd rhyw 500,000 o bobl—tua un o bob bump o'r boblogaeth—ar y gyfraith newydd, y mwyafrif ohonynt yn frodorion a fu'n ddieiddo ers y gorchfygiad Sbaenaidd yn yr 16g.
Aeth y diwygiadau tir yn groes i ddymuniadau'r United Fruit Company, cwmni amlwladol gyda'i bencadlys yn Boston, a berchenai ar blanhigfeydd ffrwythau ar draws America Ladin gan gynnwys ystadau enfawr, rheilffyrdd, a phorthladdoedd yng Ngwatemala. Pwysodd United Fruit ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymyrryd â'r drefn newydd, a chodwyd braw am bresenoldeb comiwnyddion yng nghabinet Árbenz. Gorchmynnodd Dwight D. Eisenhower, Arlywydd yr Unol Daleithiau, weithredu cudd gan yr Adran Amddiffyn a'r CIA i ddymchwel Árbenz, ac ar 18 Mehefin 1954 lansiwyd gwrthryfel gan alltudion Gwatemalaidd gydag arian ac arfau oddi ar yr Americanwyr. Cydymdeimlodd rhai yn y fyddin â'r gwrthryfelwyr, a gwrthododd eraill i ymladd rhag ofn y byddai'r Unol Daleithiau yn goresgyn y wlad, ac felly ymddiswyddodd Árbenz ar 27 Mehefin. Fe'i olynwyd gan arweinydd y gwrthryfel, y Cyrnol Carlos Castillo Armas.
Aeth Árbenz yn alltud, a bu farw yn Ninas Mecsico ym 1971, yn 57 oed. Yn 2011, cyhoeddodd llywodraeth Gwatemala ymddiheuriad swyddogol am ddymchwel Árbenz.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Guatemala apologises to Arbenz family for 1954 coup", BBC (20 Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Mawrth 2022.