Dinas Mecsico

prifddinas Mecsico

Dinas Mecsico (Sbaeneg: Ciudad de México; enw gwreiddiol: Tenochtitlan) yw prifddinas a dinas fwyaf Mecsico. Cyfeirir ati yn yr iaith frodorol Nahuatl fel 'Āltepētl Mēxihco' ac yn aml fel 'Mecsico, D.F.' (Distrito Federal) neu'n fyr fel: CDMX. Mae'n un o ddinasoedd mwyaf y byd, gyda phoblogaeth y ddinas ei hun yn 8,918,653 (2016) a phoblogaeth yr ardal fetropolitaidd (a elwir yn "Dinas Mecsico Fwyaf") yn 26,202,362 (2020)[1][2]. Hi, felly, yw dinas fwyaf poblog Gogledd America.[3][4] Fe'i lleolir yn Nyffryn Mecsico (Valle de México), cwm mawr ar lwyfandir uchel yng nghanol gwlad Mecsico, ar uchder o 2,240 metr (7,350 tr), dros ddwywaith uchder yr Wyddfa. Mae gan y ddinas 16 israniad o'r enw bwrdeistrefi neu demarcaciones territoriales.

Dinas Mecsico
15-07-15-Landeanflug Mexico City-RalfR-WMA 0963.jpg
Coat of arms of Mexico City, Mexico.svg
Mathprifddinas, federative entity of Mexico, dinas â miliynau o drigolion, dinas fawr, ardal ffederal, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,918,653 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 Awst 1521 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethClaudia Sheinbaum Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirMecsico Edit this on Wikidata
GwladBaner Mecsico Mecsico
Arwynebedd1,485 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,250 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMorelos, Talaith Mecsico Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19.4194°N 99.1456°W Edit this on Wikidata
Cod post01000–16999 Edit this on Wikidata
MX-CMX Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCongress of Mexico City Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Head of Mexico City government Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethClaudia Sheinbaum Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganAntonio de Mendoza Edit this on Wikidata

Dinas Mecsico yw un o'r canolfannau diwylliannol ac ariannol pwysicaf yn y byd.[5] Cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd, yma oedd safle dinas Tenochtitlan. Yn 1519 cyrhaeddodd y Sbaenwyr o dan Hernán Cortés, a chyn hir roeddynt wedi cipio grym yn y ddinas. Wedi i Fexico ennill ei hannibyniaeth oddi wrth Sbaen, daeth Dinas Mecsico yn brifddinas y wlad.

Mae gan Ddinas Mecsico Fwyaf Gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) o $ 411 biliwn yn 2011, sy'n ei gwneud yn un o'r ardaloedd trefol mwyaf cynhyrchiol yn y byd.[6] Roedd y ddinas yn gyfrifol am gynhyrchu 15.8% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth Mecsico gyfan, ac roedd yr ardal fetropolitan yn cyfrif am tua 22% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y wlad.[7] Pe bai'n wlad annibynnol yn 2013, Dinas Mecsico fyddai'r pumed economi fwyaf yn America Ladin - pum gwaith mor fawr â Costa Rica a thua'r un maint â Periw.[8]

Prifddinas Mecsico yw'r brifddinas hynaf yn America, ac un o ddwy a sefydlwyd gan bobl frodorol, y llall yw Quito, prifddinas Ecwador. Adeiladwyd y ddinas yn wreiddiol ar ynys ar Lyn Texcoco gan yr Aztecs ym 1325 a'i henw oedd Tenochtitlan, ond fe'i dinistriwyd bron yn llwyr gan y Sbaenwyr yng Ngwarchae Tenochtitlan 1521. Yn 1524, sefydlwyd bwrdeistref Dinas Mecsico, o'r enw México Tenochtitlán, ac ym 1585, fe'i gelwid yn swyddogol fel Ciudad de México (Dinas Mecsico).[9][9] Dinas Mecsico oedd canolfan wleidyddol, weinyddol ac ariannol rhan fawr o ymerodraeth drefedigaethol Sbaen.[10] Ar ôl sicrhau annibyniaeth oddi wrth Sbaen ym 1824, crëwyd hi'n ardal ffederal.

Mae gan y ddinas sawl polisi blaengar, megis erthyliad yn ôl y galw, math cyfyngedig o ewthanasia, ysgariad di-fai, a phriodas o'r un rhyw.

HanesGolygu

Yr arwyddion hynaf o drefedigaethau dynol yn ardal Dinas Mecsico yw esgyrn "y fenyw Peñon" ac eraill a geir yn San Bartolo Atepehuacan (Gustavo A. Madero). Credwyd am hir eu bod yn dod o'r cyfnod Cenolithig isaf (9500-7000 CC). Fodd bynnag, mae astudiaethau diweddar yn gosod oedran y fenyw Peñon yn 12,700 oed,[11] gan ei gwneud yn un o'r olion dynol hynaf a ddarganfuwyd yn yr Americas (neu'r Amerig. [12]

Yr ardal oedd cyrchfan ymfudo’r Teochichimecas yn ystod yr 8g a’r 13g, pobloedd a fyddai’n arwain at ddiwylliannau y Toltec, a'r Mexica (neu'r Aztecs), a gyrhaeddodd tua'r 14g i ymgartrefu gyntaf ar lannau'r llyn.

Yr AztecGolygu

Sefydlwyd dinas Mecsico-Tenochtitlan gan bobl Mexica ym 1325. Adeiladwyd hen ddinas Mexica y cyfeirir ati'n syml fel Tenochtitlan ar ynys yng nghanol llynnoedd mewndirol Dyffryn Mecsico, y rhannodd hi gyda dinas-wladwriaeth lai o'r enw Tlatelolco.[13] Yn ôl y chwedl, nododd prif dduw'r Mecsicaniaid, Huitzilopochtli, y safle lle roeddent i adeiladu eu dinas trwy ddangos iddyn nhw eryr euraid yn gorwedd ar gactws pigog (Opuntia) yn difa neidr Crotalus.[14]

Rhwng 1325 a 1521, tyfodd Tenochtitlan o ran maint a chryfder, gan ddominyddu'r dinas-wladwriaethau eraill o amgylch Llyn Texcoco athrwy Dyffryn Mecsico. Pan gyrhaeddodd y Sbaenwyr, roedd Ymerodraeth yr Aztec wedi cyrraedd llawer o Mesoamerica: o Gwlff Mecsico i'r Cefnfor Tawel.[15]

Ar ôl glanio yn Veracruz, aeth y fforiwr Sbaenaidd Hernán Cortés ymlaen i Tenochtitlan gan gyrraedd yno ar 8 Tachwedd 1519.[16] Gorymdeithiodd Cortés a'i ddynion ar hyd y sarn a arweiniodd i'r ddinas o Iztapalapa, a chyfarchwyd y Sbaenwyr gan reolwr y ddinas, sef Moctezuma II; cyfnewidiwyd anrhegion, ond ni pharhaodd y cyfeillgarwch yn hir. Carcharodd Cortés y Brenin Moctezuma, gan obeithio llywodraethu trwyddo.[17]

Cynyddodd y tensiynau tan, ar noson 30 Mehefin 1520 a bu brwydr o'r enw "La Noche Triste" - cododd yr Aztecs yn erbyn y Sbaenwyr estron a llwyddo i ddal neu yrru'r Ewropeaid a'u cynghreiriaid Tlaxcalan oddi yno.[18] Ail-grwpiodd cortés yn Tlaxcala. Credai'r Aztecs fod y Sbaenwyr wedi mynd yn barhaol, ac etholasant frenin newydd, Cuitláhuac, ond bu farw'n fuan; y brenin nesaf oedd Cuauhtémoc.[19]

Aeth Cortés ati i roi gwarchae ar Tenochtitlan ym Mai 1521. Am dri mis, dioddefodd y ddinas oherwydd diffyg bwyd a dŵr yn ogystal â lledaeniad y frech wen a ddaeth yn sgil y Sbaenwr. Glaniodd Cortés a'i gynghreiriaid eu lluoedd yn ne'r ynys gan ymladd eu ffordd trwy'r ddinas yn araf. Ildiodd Cuauhtémoc yn Awst 1521. Difethodd y Sbaenwyr ardal Tenochtitlan a'r brodorion bron yn llwyr yn ystod gwarchae olaf y goncwest.[16]

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

  • Amgueddfa Estanquillo
  • El Ángel (Angel Annibyniaeth)
  • Castell Chapultepec
  • Clwysty La Merced
  • Colegio Nacional
  • Eglwys gadeiriol
  • Eglwys Nuestra Señora de Loreto
  • Palacio Nacional
  • Palas Iturbide
  • Tai Mayorazgo de Guerrero
  • Torres de Satélite

EnwogionGolygu

  1. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  2. https://www.inegi.org.mx/sistemas/olap/consulta/general_ver4/MDXQueryDatos.asp?proy=.
  3. "Artículo 44" (PDF). Constitución Política de los Estados Unidos Mexicanos. Cyrchwyd 14 Mai 2010.
  4. Agren, David (29 Ionawr 2016). "Mexico City officially changes its name to – Mexico City". The Guardian.
  5. Foreign Policy (2008). "The 2008 Global Cities Index". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ionawr 2010. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2009.
  6. Global MetroMonitor | Brookings Institution Archifwyd 5 June 2013[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.. Brookings.edu. Retrieved on 12 Ebrill 2014.
  7. "Mexico City GDP as compared with national GDP". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ebrill 2010. Cyrchwyd 19 Awst 2010.
  8. Parish Flannery, Nathaniel. "Mexico City Is Focusing on Tech Sector Development". Forbes. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2013.
  9. 9.0 9.1 Government of the Federal District. "History of Mexico City" (yn Sbaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd 27 December 2009.
  10. United Nations. "Mexico City, Mexico" (yn Sbaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mai 2010. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2009.
  11. Steve Connor (3 Rhagfyr 2002). "Does skull prove that the first Americans came from Europe?". The Independent.
  12. David Epstein (2 Ionawr 2005). "First Americans May Have Come From Australia". Discover. Cyrchwyd 17 Hydref 2020.
  13. Frances F. Berdan, The Aztecs of Mexico: An Imperial Society, Efrog Newydd: Holt, Rinehart, Winston 1982, tt. 10–14.
  14. "Frances F. Berdan 1982, p. 14">Frances F. Berdan, The Aztecs of Mexico: An Imperial Society, Efrog Newydd: Holt, Rinehart, Winston 1982, tud. 14.
  15. "Frances F. Berdan 1982, tud. 14"
  16. 16.0 16.1 Marroqui, Jose Maria (1969). La Ciudad de Mexico. Mexico City: Ayuntamiento del Distrito Federal. tt. 21–25.
  17. "Conquistadors – Cortés. November 1519, The Most Beautiful Thing in the World". PBS. Cyrchwyd 17 Ebrill 2011.
  18. "Conquistadors – Cortés. June 1520 – Massacre at Tenochtitlán". PBS. Cyrchwyd 17 Ebrill 2011.
  19. "Conquistadors – Cortés. Rhagfyr 1520 – Siege, Starvation & Smallpox". PBS. Cyrchwyd 17 Ebrill 2011.