Jacopone da Todi
cyfansoddwr a aned yn 1236
Brawd Ffransisgaidd o ardal Umbria yn yr Eidal yn y 13g oedd Jacopone da Todi (Todi, 1228 – Collazzone, 1306). Fe'i cofir fel ysgolhaig a bardd a gyfansoddodd sawl laud (cerddi mawl) yn Eidaleg; mae'n debygol mai ef a gyfansoddodd y delyneg Ladin adnabyddus Stabat Mater hefyd. Roedd yn ddramodydd arloesol yn ogystal, a luniodd sawl drama ar destunau ysgrythurol.
Jacopone da Todi | |
---|---|
Ganwyd | Jacopo dei Benedetti 1236 Todi |
Bu farw | 25 Rhagfyr 1306 Collazzone |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfrinydd, cyfansoddwr, clerigwr rheolaidd, llenor, cyfreithegwr |
Dydd gŵyl | 25 Rhagfyr |
Ganwyd Jacopone yn nhref fechan Todi yn nugiaeth Spoleto. Troes yn fynach Ffransisgaidd yn 1268 gan ddod yn Frawd llëyg yn 1278. Cafodd ei garcharu o 1298 hyd 1303 am gyfansoddi dychan yn erbyn y Pab Boniffas VIII.