Defnyddir y term Jacquerie am wrthryfel y werin yng ngogledd Ffrainc yn 1358, yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Yn Ffrangeg, defnyddir Jacquerie fel term cyffredinol am wrthryfeloedd gwerinol, a gelwir digwyddiadau 1358 y Grand Jacquerie i'w gwahaniaethu.

Jacquerie
Enghraifft o'r canlynoljacquerie Edit this on Wikidata
DechreuwydMai 1358 Edit this on Wikidata
Daeth i benMehefin 1358 Edit this on Wikidata
Enw brodorolla Grande Jacquerie Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorchfygu'r Jacquerie; llun o lawysgrif o Gronicl Froissart

Hanes golygu

Roedd byddin Ffrainc wedi ei gorchfygu gan fyddin brenin Lloegr ym Mrwydr Poitiers yn 1356, a Jean II, brenin Ffrainc wedi ei gymeryd yn garcharor. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ymryson ymysg uchelwyr Ffrainc, a chyfnod o galedi mawr i'r werin, gyda threthi uchel a chwmnïau rhydd (routiers) o filwyr Seisnig a Gasgwynaidd yn crwydr'r wlad yn ysbeilio.

Canolbwynt y gwrthryfel oedd dyffryn afon Oise, i'r gogledd o ddinas Paris. Roedd "Jacque" yn enw sarhaus ar werinwyr gan yr uchelwyr, oherwydd eu bod yn gwisgo siaced amddiffynnol a elwid yn "jacque" mewn brwydr, yn hytrach na llurig dur fel yr uchelwyr. Adnabyddid arweinydd y gwrthryfel, Guillaume Cale, fel "Jacques Bonhomme".

Rhoddwyd diwedd ar y gwrthryfel gan Siarl Ddrwg. Ar 10 Mehefin 1358, roedd ei fyddin ef a byddin Guillaume Cale yn eu wynebu eu gilydd ger Mello. Gwahoddwyd Cale i ddod i drafod telerau heddwch gyda Siarl, ond pan ddaeth, cymerwyd ef yn garcharor, ac yn ddiweddarach torrwyd ei ben. Heb eu harweinydd, gorchfygwyd ei fyddin ym Mrwydr Mello.

Cyfeiriadau golygu