James A. Garfield
Ugeinfed Arlywydd yr Unol Daleithiau oedd James Abram Garfield (19 Tachwedd 1831 – 19 Medi 1881). Ef oedd yr ail arlywydd i gael ei lofruddio ar ôl Abraham Lincoln. Arlywyddiaeth Garfield yw'r ail-fyraf yn hanes yr U.D. ar ôl William Henry Harrison, gyda chyfanswm o 199 niwrnod. Roedd yn y swyddfa am chwe mis a phymtheg diwrnod, gweinyddodd yr Arlywydd Garfield, a Gweriniaethwr am lai na phedwar mis cyn cael ei saethu a'i anafu'n angeuol ar 2 Gorffennaf, 1881. Bu farw ar 19 Medi.
James Abram Garfield | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 4 Mawrth 1881 – 19 Medi 1881 | |
Is-Arlywydd(ion) | Chester A. Arthur |
---|---|
Rhagflaenydd | Rutherford B. Hayes |
Olynydd | Chester A. Arthur |
| |
Cyfnod yn y swydd 4 Mawrth 1863 – 3 Mawrth 1881 | |
Rhagflaenydd | Albert G. Riddle |
Olynydd | Ezra B. Taylor |
Geni | 19 Tachwedd 1831 Moreland Hills, Ohio |
Marw | 19 Medi 1881 (49 oed) Elberon, New Jersey |
Plaid wleidyddol | Gweriniaethwr |
Priod | Lucretia Rudolph Garfield |
Galwedigaeth | Cyfreithiwr, Addysgwr a Gweinidog |
Crefydd | Disgyblion Crist |
Llofnod | ![]() |
Cyn iddo gael ei ethol fel arlywydd, treuliodd Garfield gyfnod fel uwchfrigadydd ym Myddin yr Unol Daleithiau ac fel aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, ac fel aelod o Gomisiwn Etholiadol 1876. Erbyn heddiw, Garfield yw unig aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau i gael ei ethol yn Arlywydd.