James Brown
Canwr o'r Unol Daleithiau oedd James Joseph Brown (3 Mai 1933 – 25 Rhagfyr 2006).
James Brown | |
---|---|
Ganwyd | James Joseph Brown 3 Mai 1933 Barnwell, Augusta |
Bu farw | 25 Rhagfyr 2006 Atlanta |
Label recordio | Federal Records, King Records, Polydor Records, Philips Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, cyfansoddwr, dawnsiwr, cynhyrchydd recordiau, gwleidydd, pianydd, gitarydd, cynhyrchydd, sound designer |
Arddull | cerddoriaeth yr enaid, ffwnc, doo-wop, y felan, cerddoriaeth yr efengyl |
Math o lais | bariton |
Taldra | 1.68 metr |
Pwysau | 65 cilogram |
Priod | Tomi Rae Hynie, Velma Warren, Deidre Jenkins, Adrienne Rodriguez |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Anrhydedd y Kennedy Center, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, MOJO Awards, Rock and Roll Hall of Fame |
Gwefan | http://www.godfatherofsoul.com |
Mae James Brown wedi dod i gael ei adnabod fel tad cerddoriaeth ‘soul’ a ‘ffync’, trwy ei ddatblygiadau dewr o'r genres ‘gospel’ a ‘rhythm a blues’.
Oes a gwaith
golyguBlynyddoedd cynnar
golyguGaned Brown ar Fai y trydydd 1933 ym Marnwell, De Carolina, yn ystod y Dirwasgiad economaidd a oedd ar y pryd. Fel plentyn, bu’n dawnsio i ennill arian, yn casglu cotwm, ac yn glanhau esgidiau. Nid oedd yn fachgen a oedd yn gwneud arfer o gadw i’r gyfraith, a mewn canlyniad, bu’n gorffen mewn ysgol atgyweirio, pan yn un ar bymtheg oed. Yno, cyfarfu a Bobby Byrd, arweinydd grwp cerddoriaeth gospel, a ddaeth yn ffrind da iddo yn ganlynol. Yn yr ysgol hon, ceisiai Brown fod yn focsiwr, a chwareai bêl fasged, ond gosododd anaf i’w goes ef ar y ffordd i gerddoriaeth fel gyrfa.
Gyrfa gynnar
golyguYmunodd Brown â grwp gospel Byrd, ond, ar ôl gweld perfformiad gan Hank Ballard, a Fats Domino, penderfynon mynedu byd cerddoriaeth seciwlar. Penderfynon galw eu band ‘Y Fflamau’-‘The Flames’. Dros y blynyddoedd daeth y grwp yn llai o grwp a mwy o gefnogaeth i Brown fel prif canwr, ac artist. Lan nes at nawr, roedd y Brown yn weddol poblogaidd, yn enwedig yn ne’r UDA, ond bu hyn yn newid yn 1961, pan cafodd ei sioe ‘Live at The Apollo’ ei gyhoeddu. Erbyn hyn roedd ei ganeuon yn tueddu ym hellach a phellach i ffwrdd o RnB traddodiadol tuag at arddull newydd a elwir yn Funk.
Gyrfa ddiweddarach
golyguTrwy’r chwechdegau, parhaodd Brown yn ei waith tra un ar ôl un gadawodd aelodau o’i fand i fynd i lefydd newydd, felly dechreuodd ef a Boyd fand newydd o’r enw ‘the JB’S’. Ond erbyn diwedd y saithdegau, roedd poblogaidd Brown yn lleihau, ac er iddo ddod ychydig yn well yn ar ddechrau’r wythdegau, cyrhaeddodd ei isaf yn 1988 pan gafodd ei arestio am yrru dros y cyflymder cyfreithlon.
Diweddglo
golyguAr ôl hynny daeth yn fwy poblogaidd fel relic o’r hen oesoedd. Priododd bedair gwaith, a chafodd bump o blant. Bu farw ar Ddydd Nadolig, 2006.
Darllen pellach
golygu- R. J. Smith. The One: The Life and Music of James Brown (Gotham, 2012).