Y felan

genre mewn cerddoriaeth

Math o gerddoriaeth yw'r felan, y felan-gân, y bliws[1] neu'r blŵs[1] (Saesneg: blues) a ddatblygodd gan Americanwyr Affricanaidd yn ne'r Unol Daleithiau ar ddiwedd y 19eg canrif. Math o gerddoriaeth werin ydyw wedi tyfu o ddylanwadau Ewrop ac Affrica. Sail y felan oedd alawon gwaith, emynau ysbrydol Negroaidd, a siantiau. Roedd y caneuon hyn yn sôn am deimladau, ofnau, a gobeithion personol, ac yn rhigymu baledau syml, traethiadol.[2]

B. B. King, "Brenin y felan"

Datblygodd y felan yn sgil diddymu caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau ym 1865, wrth i nifer o dduon dod yn gerddorion. Yn wreiddiol, roedd y felan yn cael ei pherfformio gan unawdydd yn canu a'i gyfeilio gan y banjo ac ambell weithiau'r piano. Y ffidl a'r banjo oedd prif offerynnau'r felan, ac o fewn amser daeth i gynnwys y clarinét, y trwmped, y trombôn, y drwm ochr, y drwm bas, a'r symbalau. Yn yr 20g daeth y gitâr i fri yn y felan. Ymhlith y dinasoedd oedd yn graidd i ddatblygiad y felan oedd New Orleans, Houston, Birmingham, Memphis, Dinas Kansas, St. Louis, a Chicago.

Mae'r felan yn ymddangos yn ragtime, jas, rhythm a blŵs, a roc a rôl, ac yn cael ei nodweddu gan ddilyniannau cordiau penodol, lle bo'r dilyniant cordiau blŵs deuddeg-bar yw'r mwyaf cyffredin.

Datblygiad y felan
Cerddoriaeth AffricaCerddoriaeth Ewrop
Alawon gwaith ac
emynau ysbrydol Negroaidd
Y felanRagtime
Jas

Melan DeltaGolygu

Mae gwreiddiau'r felan ym Mississippi Delta ar ddechrau'r 20g. Roedd hi'n gymysgedd o ddylanwadau cerddoriaeth Affrica a cherddoriaeth orllewinol. Roedd y clerwr yn canu weithiau mewn llais main gydag ambell i sgrechian. Roedd hi'n cyfeilio gyda gitâr acwstig neu gitâr sleid ac organ geg, ond gyda banjô'n wreiddiol. Roedd y gerddoriaeth yn swnio'n ddieithr iawn i glustiau Ewropeaidd y cyfnod.

Un o ganwyr adnabyddus cyntaf y felan oedd Robert Johnson. Fe wnaeth y felan ar ddeuddeg bar yn safonol. Ym 1920, fe symudodd y felan tuag at y gogledd gyda'r mudiad o weithwyr du i ffatrïoedd Detroit a Chicago.

Y felan glasurolGolygu

Mae'r felan glasurol yn cyfeirio at gantoresau'r felan rhwng 1920 a 1929. Y gantores ddu gyntaf i recordio'r felan oedd Mamie Smith ym 1920. Rhai pobl eraill oedd Bessie Smith, Ma Rainey, Ethel Waters, a Clara Smith.

Y felan drydanolGolygu

Melan ChicagoGolygu

Yn Chicago fe gafodd y felan ei drydanu. Roedd rhai a ddaeth o Mississippi yn wreiddiol, fel Muddy Waters a Howlin' Wolf, yn defnyddio gitâr drydan, gitâr fas, drymiau, a'r piano, ac efallai sacsoffon.

Melan DetroitGolygu

Un o ganwyr y felan mwyaf adnabyddus o Detroit oedd John Lee Hooker. Daeth o Mississippi yn wreiddiol ond ym 1948 fe symudodd yno.

Y gerddoriaethGolygu

Mae alaw'r felan ar nodau cerdd y cywair lleddf pentatonig, hynny yw, ar y nodau do me fa so te. Yn nghywair C felly, fe fydd yr alaw ar C Eb F G Bb. Gelwir y nodau fflat Eb a Bb yn nodau'r felan (blue notes). Fe fydd yn arferol hefyd i ganu'r felan yn nghywair A neu E. Mae cywair Bb a Eb hefyd yn boblogaidd. Yng nghywair A, D ac E felly, fe fydd yr alaw yn cwympo fel arfer ar allweddau gwyn y piano, ac yn nghywair Eb fe fydd hi ar yr allweddau du.

Y felan ar ddeuddeg barGolygu

 
St. Louis Blues (1914)

Nid yw'r felan yn angenrheidiol ar 12-bar blŵs. Gellir fod ar wyth neu 16 bar, ond y dull mwyaf sylfaenol yw canu penillion o dair llinell ar 12 bar. Yn wreiddiol, roedd ceith-was yn canu'r llinell gyntaf wrth weithio yn y cae, ac eraill yn ei ateb wrth ganu'r ail linell gyda'r un geiriau yn aml iawn, ond ar nodau gwahanol. Wedyn roedd yn canu'r trydydd llinell.

Mae'r siart a ganlyn yn dangos yr enghraifft mwyaf syml a chyffredin. Mae'r siart yn dangos y cordiau yn nghywair C mewn 12 bar o 4 curiad. Gellir chwarae'r felan yn araf neu yn gyflym.

C///|////|////|////|
F///|////|C///|////|
G7///|F///|C///|////|

Mae'r dilyniant uchod (neu drosiad i gywair arall) yn cael ei ddefnyddio mewn miloedd o ganeuon y felan, R&B a roc.

Dyma amrywiad;

C///|////|////|C7///|
F///|////|C///|////|
G7///|F///|C///|G7///|

Gelwir y ddau far olaf (barau 11 a 12) yn blwsdroad; dau far offerynnol a fydd yn troi'n ôl at ddechrau'r bennill nesaf. Weithiau fe fydd y troad yn cael ei ddefnyddio fel cyflwyniad i'r gân, hynny yw, gellir dechrau'r gân wrth chwarae barrau 11 a 12 yn offerynnol cyn y bennill gyntaf.

Mae llawer o ganeuon y felan yn defnyddio cordiau seithfed o ben bwy gilydd (er bod hwn yn groes i ddamcaniaeth confensiynol cerddoriaeth sy'n gorchymyn bod e ddim yn arferol i ddechrau ar gord seithfed a bod darn o gerddoriaeth byth yn terfyn ar gord seithfed). Gellir goleddfu'r enghreifftiau uchod wrth chwarae cordiau seithfed yn lle'r prif gordiau, hynny yw, chwarae C7 yn lle C a F7 yn lle F. Dyma enghraifft syml o'r felan yn A sy'n defnyddio cordiau seithfed yn unig,

A7///|D7///|A7///|////|
D7///|////|A7///|////|
E7///|D7///|A7///|E7///|

Enwogion y felanGolygu

O'r MississippiGolygu

O leoedd eraill yn yr U. D.Golygu

O weddill y bydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1  bliws. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Mai 2015.
  2. (Saesneg) The Evolution of Differing Blues Styles. How To Play Blues Guitar.